Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TEULU'R WOODIAID YNG NGHYMRU GAN DORA E. YATES VN nodyn diddorol E. R. Griffith, Carfan o Deulu'r Woodiaid (LLEUFER, ix, t. 31-32), dywaid mai ychydig iawn o hanes y teulu hwn sydd ar gael." Nid amhriodol efallai fyddai cofnodi yma fod hanes manwl yr hen deulu hwn yng Nghymru, ynghydag achres lawn, wedi ei gasglu gennyf i o goflyfrau Dr John Sampson, a'i gyhoeddi yn Journal of the Gypsy Lore Society, Trydedd Gyfres, cyf. xi, xii a xiii (1932, -3, -4). At yr achau a argraffwyd yno, a gymerwyd oddi wrth wybod- aeth lafar ddilys gan aelodau byw "teulu Abram Wd," a'u hategu gan gofnodion mewn nifer o Gofrestri Plwyf Cymru, ymddengys fod y diweddar Mr Griffith (a ddywedodd wrthyf mai gan Bob Owen, Croesor, y cafodd ei wybodaeth) wedi chwanegu dwy ffaith nas cofnodwyd o'r blaen, sef (1) Babtized Adam, son of Thomas Wood, a harper, yn 1778 (yn hen lyfr bedyddiadau Llan- egryn), ac yn ddiweddarach (os at yr un gŵr y cyfeirir yn Llyfr Festri Llanfihangel-y-Pennant) yn derbyn arian plwyf fel tlotyn a (2) Christened Natty, daughter of John Wood, harper, by Jane his wife ar y cyntaf o Ionawr, 1797, yn Llanegryn. Y "John Wood, harper," a geir yn ail gofnod Mr Griffith, yn ddiau oedd Valentine neu John Wood (mab hynaf Abraham) a gladdwyd yn Llanfihangel-y-Traethau ar Ebrill 14, 1818, aet. c. 76, ac yng Nghofrestr y plwyf hwnnw gelwir ef John Abraham Woods (h.y. John mab Abraham). Priododd y Sipsi Jane Boswell o Sir Aberteifi, ac yn y Wrexham Advertizer, 1876, disgrif- iwyd ef gan ei ddisgynnydd enwog John Roberts (" Telynor Cymru ") yn 1885 fel hyn The eldest of his [Abraham's] three sons," "who did very early take to the harp, but was not considered much of a player." Ond yr oedd gan Valentine yntau fab Adam, y tybir ei eni tua 1762 yn Abergynolwyn, a oedd yn good harper (Wrex. Adv.), ac a ddaeth yn father of John Wood Jones, whié was the second pupil of Mr. [Richard] Roberts of Carnarvon, and harpist to the Right Hon. Lady Llanover." Y mae'r telynor hwn, fodd bynnag, yn Adam gwahanol i'r crwydryn Adam, son of Thomas Wood," a ddarganfuwyd gan Mr Griffith. Rhaid bod Thomas, tad y crwydryn, yn fab arall i Abraham Wood, a bod