Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SIARAD A GWRANDO GAN EDWIN A. OWEN Y MAE'N bwysig iawn i ddarlithydd, yn yr ysgol neu ar lwyfan cyhoeddus, fedru traddodi'n glir fel y gallo pawb ei ddeall a'i ddilyn, ac y mae'r un mor bwysig medru gwrando'n astud er mwyn rhoddi pob chwarae teg i'r darlithydd a chymryd i mewn y cwbl o'r hyn a draetha. Ysgrifennwyd llawer o dro i dro ar siarad a gwrando o'r safbwynt hwn, ond yma fe ystyriwn y mater o gyf- eiriad gwahanol. Edrychwn i mewn i'r hyn a ddigwydd pan aner- cher cynulleidfa o bobl mewn ystafell, boed neuadd gyhoeddus, capel neu ysgoldy, a chawn weled bod llawer o bethau diddorol iawn yn digwydd. I gychwyn, gadwch inni yÄyried sut y cynhyrchir y llais, a sut y ceir digon o swn drwy'r genau i bawb yn yr ystafell allu clywed pa beth a ddywedir. Pan fo dyn yn siarad, gwna i'r llinynnau llais ddirgrynu drwy wthio awyr o'r ysgyfaint heibio iddynt. Nid llinynnau ydynt mewn gwirionedd, ond cyhyrau yn y corn gwddf, a medrant ddirgrynu'n gyflym neu'n araf fel y bo angen, drwy gymhwyso tyndra'r cyhyrau. Gwneir hyn oll heb ymwybod i'r siaradwr, a heb deimlo dim ymdrech ganddo os cyn- hyrchir y llais yn briodol. Dirgrynir y llinynnau llais mewn modd tebyg iawn i'r ffordd y gwneir i laswelltyn rhwng dau fawd symud yn gyflym o'r naill ochr i'r llall drwy chwythu arno. Gellir gwneud lleisflwch celfydd boddhaol ar y llinellau hyn. Ond nid dyna'r cwbl 0 lawer iawn. Pe na bai dim yn digwydd ond hynyna, ni fuasai'n bosibl clywed dyn yn siarad ond yn agos iawn ato. Y mae natur wedi trefnu bod i'r swn gwan a gynhyrchir gan linynnau'r llais gael ei gryfhau, fel ymedr pobl glywed y llais bellter o ffordd oddi wrth y siaradwr. Wrth siarad, cymer y tafod wahanol osodiadau symuda'r blaen a'r bôn i wahanol rannau o'r genau-ambell dro gorwedd y blaen yn naturiol ar y dannedd, a thro arall cyfyd i'r to neu gyffwrdd â'r dannedd. Yn yr un modd, cyfyd y bôn i fyny yn erbyn y to ar rai adegau, ac yna syrth i'r gwaelod. I ddeall pa beth a ddigwydd pan symuder y tafod fel hyn, dylem esbonio yn gyntaf fod ceudyllau'r gwddf, a'r ffroen (neu'n hytrach y tu ôl i'r firoen), a'r genau yn chwarae rhan bwysig mewn cynhyrchu a chwyddo'r llais. Medrwn ddangos eu pwysigrwydd drwy ystyried arbrawf syml. Cymerer potel ffisig