Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wag a dalier seinfforch sydd yn dirgrynu wrth ei cheg agored. Ni chlywir dim swn bron. Ond os tywelltir dAvr yn araf i'r botel, canfyddwn pan gyrhaeddo'r dAvr lefel arbennig y cryfha'r swn fel y gellir ei glywed yn hawdd yn yr holl ystafell. Pan ddigwyddo hyn, dywedir bod yr awyr yng ngheudwll y botel yn atseinio i'r nodyn a roddir allan gan y seinfforch, hynny yw, dirgryna'r awyr yn y botel gyda'r un mynychder â'r seinfforch, gan ad- gyfnerthu'r swn a'i wneud lawer yn gryfach na swn y seinfforch ei hunan. Dyma yn union beth a ddigwydd ynglyn â cheudyllau'r gwddf, y ffroen a'r genau, ond yn lle bod yn atseinydd syml fel y botel, y mae'n un mwy cymhleth ac yn cynnwys amryw geudyllau. Gellir rhannu ceudyllau'r genau a'r gwddf i rai llai ac o wahanol faintioli wrth symud y tafod, fel y crybwyllwyd yn barod. A chlywir y llais yn gryf oherwydd bod y ceudyllau'n atseinio i ddirgryniadau llinynnau'r llais. Wrth newid cyfartaledd maint- ioli'r ceudyllau-a gwneir hyn wrth symud y tafod­-ceir saâti y gwahanol lafariaid. Medrwn ddynwared cynhyrchiad y llais a swn y llafariaid trwy wneuthur o glai wahanol geudyllau o'r maint priodol, a chwythu iddynt trwy leisflwch wedi ei wneud â llain o rwber wedi ei dynhau mewn agen rhwng dau ddarn o bren a'i osod ym mhen un o'r ceudyllau. Yn wir, clywais ddyn, wedi llawer o ymarferiad, yn medru siarad trwy chwythu i leisflwch o'r math yma, a'r ceudyllau wedi eu gwneud o'i ddwy law. Medrai newid ansawdd y swn drwy newid ffurf ei ddwy law; golyga hyn ei fod yn newid cyfartaledd maintioli'r ceudyllau a ffurfiwyd o'i ddwylo. Cychwynna'r swn o'r genau a chlywir ef ymhob rhan o'r ystafell. Ystyriwn am foment sut y caiff ei drosglwyddo o un fan i'r llall. Gwelsom fod dirgryniadau'r llinynnau llais yn cael eu cryfhau drwy gyfrwng y ceudyllau, a chychwynnant donnau swn yn yr awyr. A pheth rhyfedd yw hyn, fod pob gronyn o'r awyr yn yr ystafell yn cael ei symud. Symud yn ôl a blaen yn y cyfeiriad y bydd y swn yn trafaelio. Gellir dweud bod pob gronyn o awyr yn yr ystafell yn helpu'r darlithydd Natur â'i holl egni a welir yma yn ategu ymdrechion dyn. Deil Natur i'w helpu pan fydd y gynulleidfa wedi hen flino arno ao yn wir yn rhwystr iddo. Ond os bydd yr adeiladydd wedi bod yn aflêr wrth gyn- llunio'r neuadd gynnull, gall Natur hefyd ddifetha ymdrechion y darlithydd, yr un mor Ilwyr ag yr helpa hwy o'r blaen, gan fod