Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYWELYN FAWR GAN GWILYM R. JONES Llywelyn Fawr, gan Thomas Parry. Gwasg y Brython. 3 /6. CEISIODD mwy nag un o'n dramawyr lunio drama o hanes bywyd Llywelyn Fawr a'i briod, Siwan, ynghwrs y blynydd- oedd diwaethaf. Dichon fod dau reswm eglur dros ddewis Llyw- elyn yn gymeriad canolog i ddrama Gymraeg y gred mai drama hanesyddol fydd ein drama fawr pan ddaw hi, a'r syniad y gallai drama a brwydr un o'n tywysogion am annibyniaeth i'w genedl yn gefndir iddi fod yn dderbyniol yn nyddiau'r deffroad cenedlaethol cyfoes. Y mae'n bosibl fod gwaith Thomas Parry yn cyfieithu Murder in the Cathedral T. S. Eliot i Chwaraewyr Coleg y Gogledd, Bangor, wedi ei sbarduno i ysgrifennu drama hanesyddol ei hun. Dywaid Dr Parry mai arbraw yn null T. S. Eliot yw'r Côr, a bod ar rai ymadroddion olion dylanwad y gẃr hwnnw." Cefais i ddiddanwch mawr wrth wrando a gwylio Chwaraewyr Bangor yn cyflAvyno'r ddrama am y tro cyntaf yn nechrau 1951 fel pob drama o'r iawn ryw, rhywbeth i'w pherfformio yn anad dim yw hi. Eto i gyd, mwynheais wrando ar y cyflwyniad radio a gafwyd o Llywelyn Fawr, a daliaf i gael blas ar ei darllen fel fel pe na bai ond yn ddarn 0 lenyddiaeth. Y mae'n bósibl i ddosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweith- wyr drafod y ddrama mewn tair ffordd Gallant ei thrin fel dehongliad o hanes gallant ei hastudio fel cyfraniad at y ddrama Gymraeg neu gallant ei hystyried fel tamaid o lenyddiaeth. Ni feiddiwn i geisio edrych ar y gwaith trwy lygad yr hanes- ydd bodlonir fy ngreddf hanesyddol i gan Nodiad cryno'r awdur ar ddechrau'r llyfr, a chyffesaf fy mod yn un o'r rhai y dywedir amdanynt nad ydynt yn malio am gywirdeb ysgol- heigaidd mewn drama o'r fath. Y ffordd orau i drafod Llywelyn Fawr fel drama fyddai i ■aelodau'r dosbarth ei darllen a'i chwarae, pe byddai hynny'n bosibl. Byddai'n anodd meddwl am amgenach maes i ddosbarth drama am dymor, a gellir bod yn sicr y cytunid ar ddiwedd y tymor hwnnw fod Llywélyn Fawr yn gyfraniad pwysig i'r ddrama Gymraeg: diau y cytunid hefyd nad yw hi byth yn debyg o ddyfod