Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MESUR AMSER PELL GAN H. N. SAVORY TJYD yn hyn, bûm yn sôn bron yn gyfan gwbl am yr ychydig filoedd blynyddoedd o gyn-hanes diweddar Ewrop, blyn- yddoedd nad ydynt yn wir yn gyn-hanes hollol, oblegid yn ystod y cyfnod hwn yr oedd gwareiddiadau aeddfed yn bod yn y Dwyrain Canol, a gellir cysylltu â'u harchaeoleg a'u hanes dyddiedig hwy rywfaint o archaeoleg eu cymdogion anwar yn y gorllewin. Ond cyn yr ychydig filrifoedd hyn, bu dyn yn rhyw fath o anifail yn defnyddio arfau am, dywedwch, gymaint â hanner miliwn o flyn- yddoedd, yn y cyfnod a eilw archaeölegwyr yn Hen Oes y Cerrig, neu'r cyfnod Palaeolithig, ac a eilw daearegwyr yn gyfnod Pleis- tosîn a thros yr holl gyfnod hirfaith hwn ni ddaw yr un tewyn o oleuni inni oddi wrth wareiddiad a allai sgrifennu ei hanes ei hun. Y mae gan yr archaeolegydd Palaeolithig eto, y mae'n wir, y cyfryngau i'w arwain sydd gan archaeolegwyr bob amser: cydgysylltiad, haeniad a theipoleg, a chaiff lawer o gynhorthwy ganddynt i bennu dyddiadau perthnasol." Ond rhaid iddo droi i rywle arall am ddyddiadau absoliwt," sef at y gwyddorau naturiol. Canys nid dolennau i'w cydio wrth gymdeithasau dynol dyddiedig a ddyry cydgysylltiad a haeniad iddo, ond rhai'n cydio wrth yr isgyfnodau y rhennir^y cyfnod Pleistosîn iddo gan ddaearegwyr, ac fe bennir eu dyddiadau hwy un ai drwy ddulliau cwbl ddaearegol neu drwy gymorth gwyddor seryddiaeth. Cytuna daearegwyr yn lled gyffredinol erbyn hyn fod y cyfnod Pleistosîn wedi para am ychydig dros hanner miliwn o flynyddoedd casg- lwyd yr wybodaeth drwy fesur faint o amser a gymer gwaddod i ymffurfio ar waelod llynnoedd gan ffrydiau'n llifo i mewn iddynt. Cadarnhawyd yn fras y dyddiad cyffredinol hwn drwy ddull hollol newydd a ddefnyddiwyd yn ddiweddar iawn, dull a rag- dybia fod perthynas rhwng symudiadau rhew'r pegynnau ymlaen ac yn ôl yn y cyfnod hwn a'r gwahaniaeth yn swm y gwres a ddaw i'r ddaear o'r haul oherwydd cyfnewidiadau yng nghylchdro'r ddaear o amgylch yr haul — gŵyr seryddion ddyddiadau'r cyf- newidiadu hyn yn iawn. Y mae'r dull hwn yn arbennig o werth- fawr i'r cyn-hanesydd, oherwydd fe rydd iddo fras-ddyddiadau'r II