Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLEN GAN HARRI GWYNN Y Llen Myfi yw'r llen, Yr arian sgrin A'i disgleirdeb yn fur rhag a fu, Yn darian rhag a ddaw Bethel y gweledigaethau rhad Ar gornel gyfleus o'r stryd. Dewch ataf fi i'r esmwythyd. Dewch drwy'r gwyll i Fethel, A'r dewin-belydr a syrth arnaf Gan roi i chwi eich angylion dethol. Boed i bawb ei freuddwyd Yn ôl ei ewyllys. Os estron y lleferydd, Onid dieithr erioed iaith y duwiau ? Ond a raid i'r sidan fron wrth air ? Neu'r cluniau llyfn wrth lafar ? Syml gramadeg y gwaed ar y gyllell. Eglur cystrawen cyfarthiad y gwn, A chwi a'u hadwaenoch. Dewch i mewn o lwydni'r glaw. Dewch i'r cynhesrwydd trwm o oerni'r gwynt. Ffowch rhag caledwch cefnsyth y seti pîn Lle mae'r saint yn codi coler y gôt Rhag y drafftiau a ddaw tan y drws G grombil y nos. Melysach fy nghân Na chaethni hen leisiau Yn llusgo'r hen donau. Hyfrytach fy rhianedd gwawn Na chrasgroen ferched y pentref Yn eu dillad rhad, sydêt. Ac onid duwiau feibion y cysgodion O'r peiriant ?