Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS GWR addfwyn, caredig yw David Thomas, fel rheol, ond pan rydd ei fantell olygyddol ar ei ysgwyddau, a cherdded â cherddediad cadarn i mewn i'r swyddfa acw, a gofyn, mewn llais melfedaidd haearnaidd, Ydi'ch Nodiadau i LLEUFER yn barod ? byddaf yn cael y math o arswyd y bydd plant yn dioddef oddi wrtho o weld plismon yn dyfod atynt a gofyn, Pwy daflodd y garreg 'na ? Unwaith y bydd y golygydd wedi gofyn imi am fy nodiadau, 'does dim heddwch i'm meddwl wedyn nes byddaf wedi eu sgrifennu. Wedi rhoddi popeth heibio, a thorri pob dêt, a chrafu 'mhen a chwysu i orffen fy nodiadau, bydd rhyfedd rin fy arswyd ohono yn llithro ymaith, a gallaf gerdded heibio i'w dy yn dalog braf, heb ofn na braw." Yn ystod yr wythnosau diwaethaf, medrais fynychu cyfar- fodydd deuddeg o'n Canghennau byddai'r rhif yn uwch ond fy mod yn methu bod mewn dau Ie ar yr un amser. Ymwelais â Changhennau Ardudwy, Bangor, Cemaes a Llanfechell, Bae Colwyn, Dyffryn Clwyd, Dyffryn Peris, Deeside, Llyn, Penrhyndeudraeth, Prestatyn, Uwch-Dwyryd a Wrecsam. Braint eithriadol ydyw cael mynd i gyfarfodydd ein Canghennau, lle gallaf weled y gwaith yn cael ei drefnu, a gweled yr arwyddion amlwg o'r ysbryd sy'n ysgogi Mudiad Addysg y Werin, y cariad at addysg a diwylliant yn ei amlygu ei hunan yn ymdrechion y llu cyfeillion sydd yn ymgorfforiad o'r WEA. Anawsterau'r Canghennau'n troi'n symbyliad i'r aelodau i ymdrechu i'w goresgyn,-y mae'r nod- wedd hon yn amlwg yn yr holl Ganghennau. Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Rhanbarth yng Ngwrecsam eleni, a Brinley Thomas, o Goleg y Brifysgol, Caerdydd, ynŴr Gwadd. Cawsom araith wych ganddo, a thynnodd ein sylw at rai o'r cyhuddiadau gwag a wneir yn erbyn y WEA o dro i dro. Dadlennodd eu gwacter a gosododd nod inni-" Rhaid inni ddangos i'r cyhoedd fod gan y WEA gyfraniad pwysig i'w roddi at helpu plant y werin chwedl Emrys Jenkins, i geisio ffeindio'u pwrpas mewn bywyd sy'n cynyddu mewn cymhlethdod." Ymdrechwn i wneud ein neges yn glir, meddai. Pwysleisiodd hefyd undod y WEA yng Nghymru, a gwnaeth apêl gref am iddi ddatblygu trefniadau fel y gallom siarad ag un llais ar faterion addysg Cymru.