Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY CYNHALIWYD Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth De Cymru eleni ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 24, yng Ngholeg y Brif- ysgol, Caerdydd. Cafwyd cynulliad da yr oedd yno gynrych- iolaeth gref o Ganghennau'r WEA a'i chymdeithasau cysylltiedig. William King, Is-Gadeirydd y Rhanbarth, a lywyddai, gan fod y Cadeirydd, Olive Wheeler, yng Nghanada ar hyn o bryd, yn un o'r cynrychiolwyr Prydeinig yng Nghyngres Gydwladol Meddyl- egwyr. Ail-benodwyd y swyddogion-Cadeírydd Olive Wheeler Is-Gadeirydd, Dr King Trysorydd, Brinley Thomas. Dewiswyd i gynrychioli'r rhanbarth yng Nghynhadledd Flyn- yddol y WEA yn Hastings Miss E. B. Lewis, Pontardulais R. C. Mathias, Caerdydd a W. D. Richards, Aberdâr. Ac i gynrychioli'r rhanbarth ar y Cyngor Canolog Len Williams, Castell Nedd a Harry Evans, Llanelli. Cyn y bydd y rhifyn nesaf o LLEUFER wedi ei gyhoeddi, bydd yr arbraw newydd (" pilot scheme ") mewn addysg undebau Llafur wedi ei gychwyn yn ardal Port Talbot. Cynhelir cyfarfod i'w agor ym Mhort Talbot, Ddydd Sadwrn, Medi 18, ac anerchir ef gan arweinwyr lleol a chenedlaethol Undeb Llafur. Gwahoddir Canghennau'r WEA yn y cylch, a phob cangen o Undebaeth Lafur, dau Goleg y Brifysgol a'r Awdurdodau Addysg Lleol, i anfon cynrychiolwyr i'r cyfarfod pwysig hwn. Erbyn hyn bydd trefnydd yn rhoddi ei holl amser i'r swydd wedi ei benodi, ac yn barod i ddechrau ar ei waith. Fe gynnwys yr Adroddiad Blynyddol am 1953-54 hanes cyflawn a chynhwysfawr am waith y flwyddyn. Trefnodd Cyd- bwyllgorau'r Dosbarthiadau Tiwtorial, mewn cydweithrediad â'r WEA, 280 o ddosbarthiadau-yn cynnwys 107 dosbarth tiwtorial, 71 dosbarth sasiwn, 56 dosbarth term, a 46 dosbarth term byr. Trefnodd Rhanbarth De Cymru ei hun 122 o ddosbarthiadau, a thalu eu costau­21 dosbarth blwyddyn, 42 dosbarth term, 11 dosbarth term byr, a 48 o ddosbarthiadau eraill. A chyfri'r cwbl, bu 3,554 o fyfyrwyr yn mynychu dosbarthiadau a drefnwyd gan y WEA, yn y De. O gymharu'r Rhanbarth â rhanbarthau tebyg mewn rhannau eraill o'r wlad, y mae nifer y dosbarthiadau o bob math sydd yma