Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY ÐIWEDDGLO lliwgar fu i'r tymor a ddaeth i ben ym mis Mehefin Ers amser bellach teimlai'r myfyrwyr mai braidd yn ddi- liw oedd rhai o'r ystafelloedd yn y coleg, ac yn enwedig yr ystafell gyffredin, lle y treulient gymaint o'u horiau hamdden. Syl- weddolent hefyd mai gorchwyl gostus fyddai adnewyddu'r ystaf- elloedd drwy'r cyfryngau arferol a phenderfynasant gymryd ati i wneud y gwaith eu hunain. Yn ffodus, yr oedd yn eu plith grefft- wyr a oedd yn gyfarwydd â'r gelfyddyd o beintio ac addurno, a than arweiniad un o'r rhain, Dan Burns, o Ferthyr Tydfil, aed ymlaen i drin y muriau a'r gwaith coed am bris y nwyddau yn unig. Erbyn heddiw, y mae'r ystafelloedd yn dystiolaeth huawdl nid yn unig i chwaeth a medr y gweithwyr ond i'w teyrngarwch i'r Coleg y maent mor falch ohono. Bu'r ysbryd hwn yn nodwedd o fywyd y Coleg o'r cychwyn. Ceir prawf o hynny yn rhai o'r darluniau a beintiwyd ar y muriau gan Robert W. Baker, sydd erbyn heddiw yn athro yng Ngholeg Breiniol y Celfyddydau yn Llundain. Yn un o'r darluniau hyn dengys Mr Baker nifer o fyfyrwyr wrthi'n gwneud eu cyfran i godi muriau'r Ilyfrgell, ac yn y llall cawn lun y garddwr a myfyriwr, gweinidog parchus ac adnabyddus erbyn hyn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn edmygu'r bresych a godwyd yn yr ardd trwy gydweithrediad y garddwr a'r myfyrwyr. Nid tynnu ar ei ddychymyg yr oedd Mr Baker. Digon hawdd yw nabod y gwrthrychau yn y darluniau, er y dywaid rhai fod yr arlunydd yn euog o weniaith wrth lunio'r bresych Diolchwn o galon i'r myfyrwyr ac i'r athrawon hynny a roddodd o'u hamser a'u hegni yn y gwaith hwn. Y mae'n galondid meddwl bod yr ysbryd hwn eto'n ffynnu yn y Coleg. Buom eto mewn dyled fawr i nifer o ymwelwyr a ddaeth i roi eu gwasanaeth fel darlithwyr achlysurol. Yrr eu plith y tymor hwn bu R. J. Spilsbury, Adran Athroniaeth, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn trin problemau athronyddol. Cawsom y pleser o gwmni Emrys Bowen a David Williams a Sidney Herbert, a hefyd Mr Pearson, ysgolfeistr o Tyneside, sy'n arbenigwr mewn Sei- coleg, a Mr Forslund, o Sweden, a fu yma am bythefnos. Swyddog ym myd addysg yn Sweden ydoedd Mr Forslund, a diddorol fu'r sgyrsiau a'r trafodaethau rhyngddo a ninnau ar safonau