Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Cân Serch, a Storïau Eraill, gan T. Glynne Davies. Gwasg Gee. 51-. fYNNWYS y llyfr digon atyniadol a glân ei ddiwyg hwn a digon rhesymol ei bris (fel y mae prisiau llyfrau heddiw ysywaeth) ddwy delyneg a chwe stori. Am y telynegion, cerddi llencyndod bardd ydynt, yn rhwydd eu rhediad ag ergyd daclus. ynddynt. Ond cynhyrchion dibwys ydynt, fel y gwelwch os dar- llenwch hwynt yn union wedi darllen barddoniaeth o safon prydd- est Adfeilion yr un bardd. Nid gwarafun iddynt eu lle yn y llyfr yr ydwyf, canys y mae cerddi am hiraeth bachgen oddi cartref yn cydweddu â chasgliad o storïau a sgrifennwyd tra'n alltud mewn gwlad ddieithr. Yn ei Ragair dywaid yr awdur iddo sgrifennu'r storïau hyn pan oedd ym Malta yn fuan wedi'r rhyfel. Ychwanega Yr oeddwn yr adeg honno yn un ar hugain oed, a chofiaf mai yn Chwefror 1947 y gorffennais Y Tro Yma. Daeth y lleill yn eu tro yn ystod y flwyddyn a ddilynodd. Nid wyf wedi newid ond ychydig arnynt. Credaf mai dyna'r unig ffordd deg i'w trin, oblegid y mae dyn yn newid, a'i chwaeth yn newid, ac nid yw pob newid yn newid er gwell." Ai dyna'r unig ffordd ? Pe cyhoeddasid y storïau hyn yn fuan wedi eu cyfansoddi, fe fuasai iddynt y gwerth ychwanegol o fod yn gyfamserol. (Dadlau'n ddamcaniaethol yr wyf; gwn mai prin y gellid cyhoeddi llyfr yn 1948 o waith gŵr ifanc anhysbys). Yn sicr, y mae gweithiau creadigol fel rheol yn cyrraedd eu nod yn nes yn nyddiau eu cyfansoddi na chwedyn. Yr eithriadau i'r rheol yw campweithiau llên a chelfyddyd ynddynt hwy elfen gymharol fechan a dibwys yw cyfamseroldeb. Yr ail gwestiwn yw Oni ddylai'r awdur fod wedi ail-ysgrif- ennu'r storïau neu wneud defnydd o'u hanfodion yng ngoleuni ei brofiad helaethach o grefft ac o fywyd ? Cofier yr hyn a wnaeth golygydd llygadog â storiau cynnar Maupassant. Rhagwelodd T. Glynne Davies y feirniadaeth hon a rhoes ei ateb yn y fraw- ddeg olaf a ddyfynnwyd.