Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanes y Beibl, gan G. J. Roberts. Esgobaeth Bangor. 2/6. Problemau Beiblaidd yn yr Ysgolion, gan W. T. Pennar Davies, Gwilym A. Edwards a John Roger Jones. Cymdeithas Addysg Grefyddol yng Nghymru. Hughes a'i Fab. 3/6. Blwyddyn y Beibl mewn ystyr arbennig iawn ydyw hon, a ninnau yn dathlu trydydd jiwbili Cymdeithas y Beiblau, a seith- fed jiwbili yr Esgob William Morgan. Ar sodlau'r llyfr rhagorol ar Y Beibl Cymraeg a gyhoeddodd D. Tecwyn Evans, wele iddo gymar llawn mor rhagorol gan G. J. Roberts, Rheithor Blaenau Ffestiniog, Hanes y Beibl. Cyhoeddwyd hwn gan Bwyllgor Plant a Chartrefi Esgobaeth Bangor, ac fe'i hargraffwyd yn ôl eu harfer yn lân gan Wasg Gee. Ysgrifennwyd rhagair byr i'r gyfrol gan Esgob Bangor, a cheir ynddi hanes dwsin o ddarluniau gwych iawn o'r gofgolofn i'r cyfieithwyr sydd o flaen Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Amcenir y gyfrol, yn ôl gair yr awdur, ar gyfer plant ysgol a rhai mewn oed, a charem feddwl y rhoir iddi Ie amlwg yng ngwersi'r ysgolion eleni. Ni chyfyngodd yr awdur ef ei hun i hanes y Beibl Cymraeg. Y mae ei ganfas yn ehangach na hynny, canys mewn pedair pennod flasus edrydd am iaith wreiddiol yr Hen Destament, y defnyddiau yr arferid ysgrifennu arnynt, y prif gyfieithiadau i Roeg a Lladin, a'r cyfieithiadau cynnar i'r Saesneg. Yn y bumed bennod daw at y cyfieithiadau cynnar i'r Cymraeg, yna dengys fel y braenarwyd y tir ar gyfer y Testament Cymraeg. Rhydd bennod i gyfieithiad William Salesbury, pennod i Feibl yr Esgob Morgan, un arall i gynorthwywyr yr Esgob. Yn y pedair pennod olaf o'i lyfr, edrydd hanes Beibl 1620, y Beibl Bach ac Argraffiadau eraill, Cymharu'r Cyfieithwyr, Diweddglo a Llyfrau. Yn onest iawn canmolwn y gyfrol hon, sydd yn ddios yn gyfraniad gwerthfawr at y llyfryddiaeth a rydd yr awdur ar ddiwedd ei lyfr. Y mae'n llawer mwy na chatalog o ffeithiau hanes cyfieithu'r Beibl, yn llyfr y bydd blas ar ei ddarllen ac a enfyn ei ddarllenwyr at y llyfrau eraill a nodir gan yr awdur. Gwnaeth yr awdur yn dda roddi rhan o'i lyfr i'r cefndir ehangach, a bydd gwybod cynnwys y penodau cyntaf yn chwanegiad buddiol iawn at wybodaeth, nid y plant yn unig, ond llu o ddisgyblion. hyn yr Ysgol Sul. Y mae'n rhyfedd cyn lleied a wyddys am hanes y Beibl gwreiddiol a'r cyfieithiadau cynnar ohono, ac ychydig a gyhoeddwyd ar y pynciau hyn yn Gymraeg, er cyhoeddi Y Beibl Gwreiddiol gan T. Witton Davies.