Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Siop Siân, gan Rose Hackford Protheroe Dafydd a'r Parot, gan Rowena Wyn Jones Darlun a Chân, gan Nantlais. Llyf. rau'r Dryw Bach. 2 /6 yr un. Un o'r datblygiadau mwyaf calonogol ym myd cyhoeddi llyfrau Cymraeg ar ôl y rhyfel ydyw'r llu o lyfrau darllen deniadol i blant. Cymer y gyfres, Llyfrau'r Dryw Bach, ei lle yn anrhyd- eddus ymhlith y llyfrau hyn. Dwy stori ddifyr i blant ieuainc ydyw Siop Siân a Dafydd a'r Parot. Ysgrifennwyd hwy mewn Cymraeg syml a graenus. Yn Darlun a Chân, lluniodd Nantlais rigymau yn cynnwys ymarferiadau i blant mewn cynanu llythrennau'r wyddor Gym. raeg," ac amryw o ganeuon addas i blant. Rhagwelaf lawer pwyllgor Eisteddfod yn dewis darnau adrodd ohono. Carwn longyfarch yr awduron am eu cynnyrch, a'r cyhoeddwyr am waith glân, am luniau byw a phrint eglur. Gobeithio y cefn. ogir eu hymdrechion ar gyfer plant, ac y bydd galw mawr am y tri llyfr. HERMAN JONES Croeso i gylchgrawn newydd eto, Diwinyddiaeth (Gwasg Gomer, 3/6), a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn o dan nawdd Adran Diwinyddiaeth Urdd Graddedigion Prifysgolion Cymru. D. Morris Jones, Aberystwyth, ydyw'r golygydd, ac fe gynnwys y rhifyn cyntaf ddwy ysgrif, sef Pa beth yw dyn? gan J. Roger Jones, Wrecsam, a Diwinyddiaeth y Testament Newydd, gan D. R. Griffiths, o Goleg y Bedyddwyr, Caerdydd, yr is-olygydd. Bwr- iedir cynnwys, o dro i dro, fraslun o'r prif lyfrau, ar wahanol agweddau diwinyddiaeth, a gyhoeddir yn y wlad hon, a thros. y môr. Mewn adolygiad ar Godre'r Berwyn (F. Wyn Jones), yn Rhifyn yr Haf, dywedwyd bod yr awdur yn hen ddisgybl i D. J. Williams,. Llanbedr. Dywaid wrthyf mai D. J. Williams, Abergwaun (nid Llanbedr), oedd ei hen athro. Tud. 104 Darllener The Prehistory of Wales yn lIe The Pre- history of Man.