Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG PRIFATHROFAOL ABERTAWE (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru) Prifathro J. S. FULTON, M.A. Bydd y flwyddyn golegol 1954-55 yn dechrau Hydref 1, 1954 Paratoir ar gyfer: (a) Graddau Prifysgol Cymru yn y Celfyddydau, mewn Gwyddoniaeth, Meteleg, a Pheirianneg. (b) Hyfforddi athrawon ysgol elfennol ac ysgol uwchradd. (c) Arholiad meddygol cyntaf Prifysgol Cymru. (d) Blwyddyn gyntaf y cwrs ar gyfer gradd Baglor mewn PensaernIaeth ym Mhrifysgol Cymru. (e) Rhan ddechreuol y cwrs astudiaeth ar gyfer gradd Baglor mewn Fferylleg ym Mhrifysgol Cymru. (f) Cwrs Diploma mewn Gwybodau Cymdeithasol. (g) Cwrs Diploma yn Arweinyddiaeth a Threfniant Ieuenctid. Cydnabyddir cyrsiau'r Coleg mewn Gwyddoniaeth fel blwyddyn gyntaf owrs meddygol gan nifer o gorfforoedd sy'n trwyddedu meddygon. Mae gan y Coleg Neuadd Breswyl i ferched. Cynigir ysgoloriaethau yn Chwefror bob blwyddyn. Gellir cael manylion ynghylch derbyniad i'r Coleg ac yng- hylch Ysöoloriaethau gап— Y Cofrestrydd, Coleg y Brifysgol, Parc Singleton, Äbertawo