Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRÜ Cyf. XI GWANWYN 1955 Rhif I NODIADAU'R GOLYGYDD TRISTWCH tynnu mewn oed ydyw gweld hen, hen gyfeillion yn mynd o fy mlaen o un i un," chwedl yr emyn. Pan fu farw Robert Richards, mi gollais un o'r ychydig a oedd yn aros o gyfeillion fy llencyndod, a'r un yr oeddwn wedi cadw mewn cyfathrach agosaf ag ef ar hyd y blynyddoedd, am fod ein diddor- debau mor debyg. Tymor yr argraffiadau dyfnion sydd yn gadael eu hôl arnom ar hyd ein hoes ydyw tymor llencyndod, a bydd rhyw agosatrwydd arbennig yn perthyn i'r cyfeillion a wnawn yn y cyfnod hwnnw. Yr oedd Bob ryw bedair blynedd yn iau na mi, ac felly gallodd fanteisio ar yr Ysgol Sir pan agorwyd hi gyntaf yn Llanfyllin buom yn cyd-Ietya, ac yn mynd i'r capel ar noson waith gyda'n gilydd, yn ystod fy nhair blynedd olaf yn ddisgybl-athro yn yr Ysgol Fwrdd yno. Hogyn direidus, llawn asbri, ydoedd y pryd hwnnw; ni welai neb mohono'n paratoi ei wersi ar gyfer yr ysgol drannoeth, ond byddent yn barod bob amser. Ar ôl gadael Llanfyllin, byddem ein dau yn ymweld â chartrefi ein gilydd, a phan ddaeth ef yn ddarlithydd i Fangor yn 1911, a minnau yn Nyffryn Nantlle, cawsom ad- newyddu'r hen gymdeithas, ac ni thorrwyd hi tra fu ef byw. Yr oedd yn gefnogwr ffyddlon i Lleufer, ac ysgrifennodd iddo droeon. Rhyw ddeunaw mis yn ôl, cawsom ganddo rai o'i atgofion am y Dosbarthiadau Tu Allan yng nghyfres "Yr Ar- loeswyr," ac yr oedd wedi addo adolygu llyfr newydd Tom Jones ar gyfer y rhifyn hwn. Cychwynnodd ef ac Ifor Williams gylch- grawn tebyg i Lleufer flynyddoedd o'i flaen, sef Y Tyddynnwr, yn 1922-23. Y mae'r pedwar rhifyn a gyhoeddwyd o hwnnw yn batrwm o'r peth y dylai cylchgrawn y WEA fod. Ni sylwais fod neb o'r rhai a sgrifennodd amdano ar ôl iddo farw wedi sôn am un o brif ddiddordebau ei fywyd, sef archaeoleg, astudio hen weddillion hanes. Rwy'n cofio dringo gydag ef