Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MORGAN LLWYD GAN GARFIELD H. HUGHES Morgan Llwyd y Llenor, gan Hugh Bevan. Gwasg y Brifysgol. 8/6. NID diystyr o gryn dipyn oedd brawddeg finiog yr hanesydd a fynnai mai cenedl yw Cymru sy'n deall mor ychydig ò'i hanes ei hun nes credu mai rhyw S.R. wedi ei eni eyn ei amser oedd Morgan Llwyd." Byd anodd mynd iddo ydyw byd meddwl Morgan Llwyd, a bu'r mwyafrif ohonom yn bodloni ar ddisgrif- iadau eraill ohono heb wneud yr un ymdrech ohonom ein hunain i gael golwg arno. Sylwer mor barod y bu'n beirniaid gorau i gadw Llwyd yn y ffrâm a luniwyd iddo gan W. J. Gruffydd, a'i droi'n ddyledwr i'r Crynwyr, i Boehme ac i Blaid y Bumed Fren- hiniaeth, yn union fel pe bai dweud hyn yn symud holl anaws- terau'r darllenydd. Gwir yw bod rhai o nodau'r Crynwyr i'w clywed yn glir weithiau yn Llyfr y Tri Aderyn nid eglwys ond yr ysbrydol, nid ysbryd ond yr ail Adda, nid teml i Dduw ond meddwl pûr dyn, nid teml barhaus i ddyn ond yr Hollalluog, a'r Oen, nid undeb ond undeb yr ysbryd tragywyddol, nid canu, nid cymmun, nid uno, nid gweddio, nid ymaelodi mewn un Eglwys oni bydd ysbryd y pen yn rheoli mewn nerth. A phriodol yw cofio awgrym R. T. Jenkins mai tebygrwydd ei eiriau i eiddo'r Crynwyr sy'n egluro paham yr aeth canlynwyr Llwyd ym Mhenllyn atynt ar ôl 1659. Ond tebygrwydd sydd yma, ac nid dylanwad. A Boehme drachefn. Bu'r fath fynd ar ei weithiau ef yn nyddiau'r Weriniaeth nes peri i un blaid awgrymu rhoi lle'r clasuron iddynt yn y prifysgolion. Arddelid syniadau cyfriniol gan lawer, ac onid oes un ysgol o haneswyr a wêl arwyddocâd cymdeithasol yn hyn, y werin dlawd yn dianc rhag Calfiniaeth orthrymus yr oes at gredo a bwysleisiai hawliau unigol ? Yn ei lyfr pwysig ef, buddiol yw rhybudd parhaus Hugh Bevan na ddylid chwilio am gyfundrefn athronyddol neu gyfriniol yng ngweithiau Llwyd.