Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAB Y MYNYDD GAN R. WILLIAMS PARRY CYHOEDDWYD y gerdd hon yn y WesUrn Mail, Awst 21, 1922, cyn cyhoeddi'r gyfrol, YrHafa Cherddi Eraill (1924), ond y mae'n debyg fod honno eisoes wedi ei gosod wrth ei gilydd yn barod i'w hargraffu. Diau fod gan yr awdur ddigon o reswm dros beidio â'i rhoddi yn ei gyfrol newydd, Cerddi'r Gaeaf, ond rwy'n teimlo ei bod yn rhy dda o lawer iawn i'w gadael o'r golwg yng ngholofnau hen bapur newydd. Gofynnais i Williams Parry am ganiatáu imi ei chyhoeddi yn Lleufer, lle y caffai nifer fawr o'i hen ddis- gyblion, a llu o ddarllenwyr eraill sydd yn mwynhau ac yn mawr- hau ei waith, ei darllen a'i thrysori. Yr wyf yn ddiolchgar iawn iddo am gytuno imi gyhoeddi'r ysgrif hon ar ei hyd. Mi dyngaf lw gerbron y nef Nad wylaf fi'r un deigryn mwy, Ond rhodiaf gyda llanciau'r dref, A gwnaf yn llawen fel hwynt-hwy Mi drwsia 'ngwisg, mi drefna 'ngwallt, A mynnaf arian ar fy ffon A rhof ffarwel i hiraeth hallt, Pan gerddaf gyda'r bechgyn llon. A phan ddêl heibio nos y ddawns, A'r telynorion oll mewn hwyl, Mi af yn hyf i brofi'm siawns, A chadwaf ddydd fy uchel-ŵyl A 'r nos yn gynnes yn fy ngwaed Mi fynnaf gariad wrth y drws, Mewn mantell sidan at ei thraed, A'i phen mewn pleth o felyn tlws. Pan ddisgyn f'amrant ar ei phryd, A'm llygad ar ei gwedd mor gain, Mi fydda'n ddifyr iawn fy myd Yng nghwmni'r eneth fwynbleth fain A minnau o fy nghlwyfau'n iach A gaf ymwared â fy mhwn, A'm calon-O fy nghalon fach, Pa chware newydd ydyw hwn ?