Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MESUR COSTAU BYW GAN E. CADVAN JONES "DU costau byw yn broblem fawr i'r werin ar hyd yr oesau, ond yn gymharol ddiweddar y dechreuwyd ei thrin o safbwynt gwyddonol. Erbyn hyn ceir trafod brwd arni o ddau gyfeiriad tra bo gwraig y ty'n trin gyda'i chymdoges y drafferth o gadw'r ddau ben llinyn ynghyd, ac yn rhempio'r codiad parhaus ym mhris y glo a'r cig a'r te, etc., y mae ei gŵr yng Nghyfrinfa'r Undeb Llafur gyda'i gymydog yn disgwyl y newyddion diweddaraf am Index Prisoedd y Weinyddiaeth Lafur. Ffigur swyddogol yw hwn a ddengys o fis i fis fel y mae costau byw yn codi neu'n gostwng. Mewn rhai diwydiannau, ceir cytundeb fod y cyflog i godi ohono'i hun, neu ostwng, yn ôl yr index mewn diwydiannau eraill, dadleuir yn frwd ynghylch y manteision neu'r anfanteision o gael cytundeb o'r fath. Nid yw'r index ei hun chwaith uwchlaw beirniadaeth, er iddo fod yn ffigur swyddogol ac yn ffrwyth ym- chwil wyddonol i broblem costau byw. Un o egwyddorion sylfaenol gwyddoniaeth ydyw mesur, ac i'r graddau y gellir mesur yn effeithiol wrth drafod unrhyw fater, i'r graddau hynny yn unig y gellir galw'r ymdriniaeth yn wir wyddonol. Y mae tair mantais o fesur 1. Trwy fesur gwneir gosodiadau pendant, y gellir eu gwireddu'n benodol heb gymryd i ystyriaeth pwy sy'n gwneud y gosodiad. Nid oes a fynno gwyddoniaeth fel y cyfryw â barn bersonol neb pwy bynnag, oher- wydd nid yw opiniwn y gwyddonydd galluocaf-er iddo fod yn wirioneddol fawr a phwysig-yn osodiad gwyddonol. Gellir dadlau ynghylch y safon, neu'r cyfryngau, neu'r method, a ddefnyddir i fesur, ond nid oes le i ddadl ynghylch y mesuriad ei hun. Yr unig beth a ellir ei wneud gyda'r mesuriad ei hun ydyw ei wireddu neu ei wrthod fel un anghywir. 2. Mantais arall o fesur yw mai gosodiad yn nhermau rhif yw pob mesuriad, ac felly sicrheir manylder. Trwy fesur yn unig y dangosir faint yn uwch yw'r Wyddfa na'r un mynydd arall yng Nghymru, ac wedi mesur gwneir yn eglur i'r dim faint yn uwch y mae. 3. 0 bosibl, y fantais fwyaf oll o fesur yw'r cynhorthwy a geir trwy fesuriadau i ddarganfod y berthynas reolaidd a ddig-