Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DON CWICSOT GAN CYNAN Anturiaethau Don Cwicsot, gan Miguel Cervantes. Trosiad J. T. Jones. Llyfrau'r Dryw. 6/ TDU farw Cervantes yn yr un flwyddyn, ac ar yr un diwrnod, â Shakespeare, a chan fod J. T. Jones eisoes wedi rhoddi i'w genedl ragorfraint trosiadau gorchestol o ddwy o gomedïau gorau Shakespeare, yn ei Marsiandwr Fenis a'i Nos Ystwyll, mae'n hyfryd o addas mai'r gwaith nesaf un i'w gyhoeddi ganddo yw'r trosiad hwn i'r Gymraeg o'r llyfr Hisbaeneg a gyfrifir ymhob gwlad yn un o glasuron comedïaeth y byd. Mi gredaf mai dyma'r gwaith cyntaf o lenyddiaeth gyfoethog Sbaen i'w gyfieithu'n uniongyrchol i'r Gymraeg. Wrth gwrs, fe ddylanwadodd Gweledigaethau Quevedo yn bur drwm ar Gweled- igaethau'r Bardd Cwsc, ond o gyfieithiad a chyfaddasiad Saesneg Syr Roger L'Estrange y bu Ellis Wynne yn cyfieithu a chyfaddasu darnau o'r rheini, nid o'r Hisbaeneg. Nac ysgrifenned neb ataf chwaith i ddwyn ar gof imi fod drama enwog Quintero, Cen- teraro, ar gael yn Gymraeg dan y teitl, Canmlwydd Oed, oherwydd cyfieithiad o gyfieithiad Saesneg yw honno drachefn-cymwynas hwylus ddigon â chwmnïau drama Cymru, yn wyneb prinder comedïau da yn Gymraeg, ond cymwynas heb iddi unrhyw arwydd- ocâd llenyddol. Yr unig gyfiawnhad llenyddol dros wneud cyfieith- iad o gyfieithiad ydyw bod yr ail gyfieithydd yn meddu ar ddawn creadigol Ellis Wynne i drawsgyweirio'r defnyddiau a fenthycir ganddo a'u ffitio i mewn yn gartrefol yn ffrâm Gymreig ei weledig- aeth ei hun. Ac atolwg, onid dyna ystyr cyfaddasu bellach ? Geilw J. T. Jones y llyfr hwn yn Anturiaethau Don Cwicsot wedi eu trosi a'u cyfaddasu — ond na feddylied neb wrth y gair olaf fod yma unrhyw ymgais i symud y stori o Sbaen i Gymru Yr hyn a olygir, yn ddiau, yw bod y cyfieithydd wedi cymryd ei ryddid i ddethol a thalfyrru, heb amcanu at gyfleu cyfan- waith, a chan fod y trosiad wedi ei fwriadu i Ysgolion Cymru mewn modd arbennig, ni allai'r ystyriaeth honno hefyd lai na chyfyngu ar y dethol a'r talfyrru. Ond, yn wir, erys digon o lyfr Cervantes i ddifyrru darllenwyr o bob oed. Ceir yma Ragair byr ar broblemau cyfieithu'r gwaith hwn, Rhagymadrodd ar