Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nachwyr, bugeiliaid, gyrwyr mulod, tafarnwyr a'u merched­ y cyfan yn erbyn golygfeydd prydferth y wlad, a'r cyfan yn gwibio heibio megis amryfal ddarluniau byw rhyw ífilm ar ril. Uwchlaw'r cwbl, daw i nabod ac i hoffi'r marchog cwrtais a dewr, os hanner-pan, ac i'w ddilyn mor awchus trwy anturiaeth ar ôl anturiaeth gomig â'i ffyddlon was Sancho Panza­weithiau yr un fath â hwnnw yn dal ei anadl wrth weled cyfranc enbyd yn nesau, ac weithiau yr un fath â hwnnw yn chwerthin am ben diniweidrwydd hygoelus y Don, ond yn glynu wrth yr arwr bon- heddig heibio i glod a heibio i glais. Rhoes Cervantes i'r byd arwr gyda'r mwyaf hoffus mewn unrhyw storiaeth, arwr a fedrai ymddwyn yn urddasol hyd yn oed mewn sefyllfa ddiurddas, ac arwr na ddichon yr un darllenwr haelfrydig lai nag ymhyfrydu ynddo gan ddod i deimlo fwyfwy trwy anturiaeth ar ôl anturiaeth fod ei ben e'n gam, ond ei galon e'n reit." DON CWICSOT (Bras drosiad o'r soned gan Wilfred Rowland Childe, 1890) GAN J. T. JONES Fe welir enaid Sbaen fan yma ar waith- Sbaen y llyngesoedd coll sydd eto'n fyw, Er nad oes elw yn tarddu o'u balchder gwyw, Ac na ddychwelant byth o'r moroedd luaith- Gorffwylledd santaidd gwr y galon lân, Mewn gwamal fyd, ar benderfynol hynt Dyma wyllt faner Delfryd yn y gwynt Mewn llawer mangre anhygyrch, ar wahân. Ffwl yr holl ffyliaid, un nad ofnai loes, 'Fu farw er mwyn amhosibl freuddwyd hen, Cyff gwawd Dysgeidiaeth oerfalch ymhob oes- Wele'r Ynfytyn hoff yn herio'r byd, Ac yntau'r Corff, dan hud y ddieithr wên, Yn prysur ddilyn ar ei asyn mud.