Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R TU OL l'R LLENNI GAN DAVID THOMAS A Diary with Letters, 1931-1950, gan Thomas Jones. Gwasg Rhydychen, Geoffrey Cumberledge. 30/ TYBED, a oes angen am imi ddweud wrth neb o ddarllenwyr LLEUFER pwy ydyw Dr Tom Jones ? Cyfrannodd ysgrifau gwych a diddorol iawn i'r cylchgrawn hwn droeon, a chawsom ei lun, a'i hanes wedi ei sgrifennu gan Harold Watkins, yng nghyfres "Arloeswyr" y WEA yn Rhifyn Hydref 1952. Gwyddom amdano fel y dewin a hudodd yr arian allan o boced gẃr cyfoethog i brynu plasty Wernfawr i wneud Coleg Harlech a llwyddodd lawer tro arall i berswadio pobl ag arian ganddynt i gyfrannu'n hael at addysg Cymru, ac at achosion da eraill. Y mae'n amlwg fod ganddo ddawn arbennig at y gwaith hwn nid arbedodd ei lafur a'i amser ei hun chwaith. Mi wn fod ganddo ddiddordeb yn y WEA o'r adeg y sefydlwyd hi gyntaf yn 1903 bu ganddo ran mewn symbylu sefydlu dosbarthiadau'r Brifysgol ym Mangor, a bu ei hun yn ddarlithydd dosbarthiadau ar hyd a lled Iwerddon am un gaeaf cyfan. Wedi dychwelyd i Gymru yn 1910, a symud i'r Barri yn 1911, bu'n weithgar iawn yn cyn- orthwyo'r WEA yn Neheudir Cymru, ac fe welwn oddi wrth ysgrif Mr Guy yn y rhifyn hwn ei fod yn barod i gynorthwyo dos- barth y WEA yn y Barri pan fyddai angen. Yn ystod ei chwe blynedd yng Nghymru, bu'n Drefnydd cyntaf y Mudiad yn erbyn y Darfodedigaeth, ac wedyn yn Ysg- rifennydd cyntaf Comisiwn Yswiriant Iechyd Cymru. Galwyd ef i Lundain i fod yn un o ysgrifenyddion y Cabinet, wedi i Lloyd George fynd yn Brif Weinidog yn Rhagfyr 1916, ar ganol y Rhyfel Mawr Cyntaf. Ac yn y swydd honno yn gwas- naethu'r naill Brif Weinidog ar ôl y llall, ac o'r diwedd ynDdirprwy Brif Ysgrifennydd, y bu nes ymddiswyddo yn drigain oed yn 1930. Yn ystod y 14 blynedd y bu'n ysgrifennydd o dan bedwar Prif Weinidog-Lloyd George, Bonar Law, MacDonald a Baldwin -cafodd gyfle i gasglu gwybodaeth helaeth a dwfn am yr hyn a ddigwyddai tu ôl i'r llenni yng ngwleidyddiaeth Prydain Fawr. Braint anghyffredin oedd cael gwneud hyn, ond yr oedd yn rhaid