Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wedi i Winston Churchill ddyfod yn Brif Weinidog ym mis Mai 1940, fe wnaed llawer ymgais, trwy gyfrwng Tom Jones yn aml iawn, i berswadio Lloyd George i ymuno â'r Cabinet, a cheir peth o hanes y trafodaethau yn y llyfr hwn. Teimlai pawb y byddai ei bersonoliaeth fyw yn gyfraniad gwerthfawr er gwaetha'i oed; chwedl J. L. Garvin, golygydd yr Observer, mewn ym- ddiddan yn Cliveden, Fe allem gael chwe awr o waith yn y dydd allan ohono eto, a byddai'n chwe awr o radiwm (mor amhrisiadwy â hynny). Yr oedd Lloyd George ei hun yn awyddus am wneud ei ran, ac yn fodlon gwasnaethu o dan Churchill, ond nid mewn Cabinet mor llawn o Dorïaid, heb neb ar ei ochr ond Attlee a Greenwood. Yr un hen ysfa am gael ei ffordd ei hun, ac yn ofni cael ei lyffetheirio. Y mae llawer o'i feirniadaeth finiog ar y peth yma a'r peth arall ynglyn â'r rhyfel yn flasus i'w dar- llen heddiw, ac yr oedd ei sylwadau yn aml yn nodedig o graff, ond ni all un lai na theimlo wrth ddarllen yr hanes mai hen wr anodd ei drin ydoedd cyn y diwedd. Gresyn na chawsai fyw ychydig fisoedd yn hwy. Fe gymerai adolygiad llawer helaethach na hwn i ymdrin â'r holl weithgareddau o eiddo Dr Jones y ceir mwy na chipolwg arnynt yn y llyfr hwn-yn ysgrifennydd y Pilgrim Trust, yn aelod o Fwrdd Cymorth y Di-waith, yn sefydlydd CEMA (a ddatblygodd erbyn hyn yn Gyngor y Celfyddydau)-canmolodd Tawney ef am ei ddewrder ac am ei weledigaeth mai ynghanol rhyfel y mae mwyaf o angen am ddiogelu celfyddyd a diwylliant -ac â bys go fawr ganddo ym mrywes lliaws o fudiadau da eraill. Un o'r cyfraniadau gwerthfawrocaf at y llyfr ydyw'r ohebiaeth rhwng yr awdur a'i gyfaill, Abraham Flexner, o Brifysgol Princeton, America. Ysgrifennai'r ddau at ei gilydd yn gyson yn disgrifio'r sefyllfa wleidyddol a chymdeithasol yn eu gwlad eu hunain, gan wneud sylwadau weithiau ar amgylchiadau'r wlad arall, a barn pobl eu gwlad eu hun amdanynt. Ni wyddai'r swyddog a ollyngodd y bom ar Hiroshima ddif- rifwch ei dasg ymlaen llaw wedi'r bomio, ymddiswyddodd o'r awyrlu ac aeth i fynachdy. Nid oedd ond un sylwedydd Seisnig yno ymddiswyddodd yntau a rhoes ei fywyd i ofalu am gloffion. -D. R. Thomas, yn Y PUntyn yn y Canol.