Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN ATHRO GAN R. WALLIS EVANS GWR cadarn, hardd yr olwg, hynaws, crefftwr medrus ac ysgrythurwr da. Dyna fo mewn brawddeg. Crydd ydoedd wrth ei grefft, ac yr oedd yn bleser bob amser gweld pâr o esgidiau o'i waith, oblegid yr oedd ei nod arbennig ef arnynt bob un. Pleser mwy oedd ei weld yn ei weithdy, wrthi yn Uunio'r esgidiau trefnu'r patrwm ar y topiau a'u torri, eu gwnïo ynghyd a'u gosod ar y lastiau, trefnu'r pegiau pren i ddal y wadn, yr adeiladu gofalus hyd at daro i mewn y sprig olaf-ymhob dim yn grefftwr hyd flaenau ei fysedd. Mynych y bûm innau'n eistedd gydag ef yn ei wylio, yn estyn y lapston iddo, neu'n cymysgu'r pâst, neu'n cynhesu'r pegiau pren yn y popty yn barod iddo, neu'n cwyro'r edau at y gwnïo. Weithiau, os byddwn yn fachgen da, ac yntau'n brysur iawn, cawn fynd â phâr o esgidiau newydd gloyw i'w cyflwyno i'r perchennog eiddgar, a chael y pleser o weld hwnnw yn eu hanwylo gan ryfeddu atynt. Gwisgais innau esgidiau o'i waith bron hyd ddyddiau'r coleg, ac ni fu erioed esgidiau tebyg iddynt mewn cysur a chadernid. Dyna un agwedd ar yr athro-y crefftwr. Un da a gofalus a chanddo lygaid craff a byw am grefftwaith gorffenedig. Yr oedd wedi tyfu yn ei grefft, ac yr oedd hynny wedi gadael ei ôl arno-yng nghadernid ei gymeriad, yn ei ofal dros bethau bychain, yn ei ymateb parod i bob math o brydferthwch. Aeth yntau ei hun yn brydferth ei gymeriad fel y pethau prydferth a greai drwy gydol ei oes. Ac yr oedd y gair prydferth yn aml iawn ar ei wefusau. Soniai'n fynych iawn am blant pryd- ferth "-ac nid plant hardd a glân yr olwg a olygai, ond plant bonheddig eu hymarweddiad. A gẃr prydferth yn yr ystyr hwn oedd yntau, un bonheddig ei ymarweddiad. Beth, tybed, a ddarllenai ? Y Beibl, yn gyntaf, wrth gwrs yna yr esboniadau, Geiriadur Charles, Taith y Pererin, Josephus, Tywysydd y Plant-canys yr oedd yn Annibynnwr o'r Anni- bynwyr, ac o bapurau wythnosol y Faner Fach-yr oedd hon yn cael ei chyrchu'n arbennig iddo o'r dref bob Dydd Sadwrn, a mawr yr edrychai ymlaen at ei chael. Ac nid gwybodaeth arwyn- ebol o'r rhain a oedd ganddo. Yr oedd wedi ei drwytho ynddynt