Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ymadroddion cynefin inni. Gofalai dynnu ein sylw atynt, ac yr oedd yn hoff o glywed eu sain. Weithiau, byddai'n ofynnol inni wneud rhestr ohonynt a dod â hwy i'r ysgol y Sul canlynol- a byddai digon o ddefnydd gwers yn yr ymadroddion yn unig. Yr oedd, y mae'n gwbl amlwg, yn wr o flaen ei oes fel athro dechreuai bob amser gyda'r plant, cariad at y rheini oedd ei fan cychwyn, ac o'r cariad hwnnw y datblygodd deall, ac o ddeall gwybod-gwybod am ryfedd ddiddordeb plant mewn swn a sain, mewn arbrofi drostynt eu hunain, mewn gwyr a gwragedd a phlant ­yn enwedig plant tebyg iddyn nhw eu hunain ymhob gwlad ac oes. Yr oedd yn rhaid dechrau ar y dasg, yn ôl arfer, yn union ar ôl yr Ysgol Sul, a mawroeddy defnydd a wnaed o'r concordans wrth baratoi'r gwaith. Yr oedd yn bwysig cael torri asgwrn cefn y dasg cyn y Dydd Mercher canlynol, er mwyn cael amser wedyn i fynd drosti'n fanwl. Wel, o'r diwedd dyma'r Sul yn dod, a ninnau'n barod a'n hatebion, pawb yn edrych ymlaen at gael y pleser o allu cyd- gyfrannu â'r athro. Ni ofynnai a oeddech wedi paratoi-cymerai hynny'n ganiataol-ac ni welais i yr un ohonom erioed yn ei fethu. Yn y modd hwn, a ninnau'n blant, y dysgasom chwilio'r Ysgrythurau ac ymgydnabod â'n Beiblau ac edrych y concordans. Yr athro hwn-y crefftwr medrus, diwylliedig—у darllenwr deallus, yr ysgrythurwr da, y gwr hynaws a oedd mor hoff o blant- fy nhadcu ydoedd, tad fy nhad, ac y mae fy nyled i iddo, fel dyled llawer un arall, yn un o'r pethau na ellir eu prisio. Meddyliwch gymaint tlotach fyddai Cymru petai'r briallu, neu'r fwyalchen, ynpeidio â bod ac yndiflannu. Byddai'r golled yn anhraethol fwy petai'riaith a'r diwylliant Cymraeg ynpeidioâ bod. Rhywbeth ar ei ben ei hun ydyw pob diwylliant cenedlaethol; nid oes dim sydd yn hollol yr un fath ag ef mewn un wlad arall. Petai'r diwylliant Cymraeg yn marw, byddai rhywbeth tlws a gwerthfawr wedi diflannu o'r byd am byth. Fe wariwn symiau mawr o arian i ddiogelu hen gestyll ac adar prin pa faint mwy, ynteu, y mae hen, hen ddiwylliant cenedlaethol-a chanddo'r llenyddiaeth hynaf yn Ewrop­yn galw am ein hymdrechion eithaf i'w gadw'n fyw ?