Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHRONIAETH NICOLAS BÊRDYAEY GAN JONAH WYN WILLIAMS Y MAE dau ddosbarth o athronwyr, sef yr athronwyr sy'n dysgu athroniaeth a'r rhai sy'n creu athroniaeth. Perthyn Nicolas Berdyaev i'r dosbarth olaf. Gwaith yr athronwyr cread- igol yw dwyn rhywbeth newydd nad oedd yn bod o'r blaen i faes athroniaeth. Y mae'r athronwyr hyn, felly, o bwys ac yn ddynion na ellir mo'u hesgeuluso. Perthyn Berdyaev i'r athronwyr Dirfodol ( ExisUntialists), gyda'r gwahaniaeth mai Dirfodaeth Gristionogol yw ei Ddirfod- aeth ef, megis Dirfodaeth Gabriel Marcel ac eraill. Nid yw'n hawdd diffinio Dirfodaeth, oherwydd nid un athroniaeth ydyw, ond ffordd o wynebu bywyd, a'r ffordd honno yn bur astrus ei chyfeiriad. Os yw'n athroniaeth o gwbl, y mae'n athroniaeth a gyfyd oherwydd argyfwng personol neu gymdeithasol. Ymatebiad personau i fywyd a'i broblemau ydyw, yn hytrach nag athroniaeth resymegol, statig. Y mae'n ymgais i ddadlennu cyfrinach Bod a Dirfod (Being and Existence). Yr athroniaeth wir yw honno sy'n ymdrin â Dirfod a'r Bodau Concrit ( ConcreU Beings ) sydd ynddo (Berdyaev). Hon yw'r athroniaeth sy'n dyfod agosaf at arwyddocâd Cristionogaeth, yn ôl Berdyaev. Dyma rai o'i brif bwyntiau Y mae Dirfod yn ddyfnach na Bod. Nid yw'n gywir dweud bod rhywbeth yn bodoli ohono'i hun, dim ond y person Dirfodol Concritaidd sydd yn bod." Hynny ydyw, ymwybyddiaeth gyflawn, nid rhywbeth haniaethol, anghyffwTdd. I ddeall athron- iaeth Berdyaev, rhaid gwybod am ei ddull o ymresymu, a'i ddull ef yw "cyfochredd deuol," sef rhannu pwnc yn ddau a chyferbynnu'r ddau ddarn â'i gilydd. Er enghraifft, i Berdyaev y mae dwy agwedd ar Wirionedd­Gwirionedd Deallol a Gwirionedd Dir- fodol. Gwirionedd Deallol yw syniadau a gwerthoedd, a Gwir- ionedd Dirfodol yw hwnnw sydd tu hwnt a thu draw i'r deall. Rhennir Amser ganddo eto i ddwy ran, sef Amser Cosmig a Hanes- yddol ac Amser Dirfodol sydd tu hwnt a thu draw i'n hamser cyffredin ni. Y mae'r Amser hwn yn rheoli ac yn torri drwy'r amser cyffredin, a'r enghraifft fwyaf o hyn yw dyfodiad ein Harglwydd lesu Grist i'r byd. Dirfod fel hyn sydd yn ddyfnder cuddiedig yw hanfod pob bywyd, a phob peth a grewyd, a Dirfod fel yr