Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMLYN ROGERS GAN EMRYS JENKINS T TN o bobl y Rhos oedd Emlyn Rogers, ac yr oedd mewn llawer peth yn nodweddiadol ohonynt, ac yn falch o hyd o'i dras a bod ei wasanaeth fel athro yn gymeradwy gan ei bobl ei hun. Magwyd ef mewn cartre glowr, ac aeth yntau, fel pob hogyn bron o'i genhedlaeth yn ardal y Rhos, i weithio i'r pwll glo, a hynny cyn bod yn 13 oed. Anafwyd efyn y pwll wrth ganlyn ceffyl galwedigaeth gyffredin bechgyn a llanciau cyn i geffylau ddiflannu o'r pyllau o flaen dulliau modern o dorri a chludo glo. Am oddeutu dwy i dair blynedd, oherwydd y ddamwainac afiechyd a afaelodd ynddo fel canlyniad iddi, bu Emlyn i mewn ac allan o ysbyty, ac yno a gartref defnyddiodd ei amseri ddarllen yn ddwfn ac eang. Byddai'n dweud mewn cellwair ei fod hyd yn oed wedi pasio arholiad mewn cerddoriaeth Aeth yn efrydydd i Goleg y Brifysgol, Bangor, yn 1921, ac ymhen tair blynedd cymerodd radd B.A. mewn economeg ac athroniaeth gydag anrhydedd uchel. Apwyntiwyd ef yn ddi- weddarach yn ddarlithydd yn Adran Efrydiau Allanol y coleg. Enillodd radd M.A. am draethawd ymchwil ar ddechreuadau arwrol Undebaeth Lafur ymysg glowyr Dinbych a Fflint. Bu ar hyd ei oes yn efrydydd cyson, a gwnaeth lawer iawn o waith ymchwil, ond yn anffodus ni fedrodd gyhoeddi ond rhan fach o'r cyfoeth a gasglwyd ganddo. Gwnaeth hefyd ymchwil cym- deithasol ac economaidd gwerthfawr ym mhentrefi diwydiannol ardal Wrecsam, o dan nawdd y Pilgrim Trust a'r Nuffield Trust. Dyn prysur oedd Emlyn ar hyd ei oes. Gwasnaethodd ar Gydbwyllgor Dosbarthiadau Allanol Coleg Bangor ac ar Bwyllgor Gweithiol yr WEA ac ar Bwyllgor Addysg Sir Ddinbych. Bu'n gadeirydd am flynyddoedd ffrwythlon ar Bwyllgor Llyfrgell Sir Ddinbych, pryd y cychwynnwyd gwasanaeth gwerthfawr i'r ardaloedd gwledig a'r maestrefi trwy'r Llyfrgell Fodur Symudol. Ymhob peth a wnâi yr oedd yn drylwyr, yn eofn ac yn ddi-dderbyn- wyneb. Gwyddai pawb He'r oedd yn sefyll ar unrhyw fater, gan fod ganddo argyhoeddiadau cryfion. Ymladdai'n galed, ac â chryn fesur o fwynhad, dros yr hyn y credai ynddo, ond ni ddaliai ddig at ei wrthwynebydd.