Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIRO RHOSLAS GAN C. E. THOMAS Y MAE swyddfa'r WEA, yn ei pherthynas â'r mudiad, yn bur wahanol i galon dyn yn ei pherthynas â'r corff. Gall dyn golli rhai o'i aelodau a rhai o'i synhwyrau, ac eto barhau i fyw os deil y galon i weithio, ond pe peidiai'r galon â gweithio, byddai'r dyn, bob rhan ohono, yn marw. Ond nid felly gyda'r WEA; y mae bywyd a bywiogrwydd y mudiad yn dibynnu, nid yn gymaint ar y swyddfa (y galon) ond ar y mudiad tu allan. Gweith- garwch y Canghennau a'r Dosbarthiadau ar hyd a lled y rhanbarth yw'r ffynonellau y tyn y swyddfa ei bywyd ohonynt. Os bydd y canghennau wedi cydio yn eu gwaith o ddifrif, gallant ddal ym- laen i drefnu dosbarthiadau a darlithoedd ac ysgolion undydd heb gynhorthwy'r swyddfa. Wedi rhoddi'r swyddfa yn ei ìle megis, fe'i gadawn yn awr a mynd i sôn am yr adrannau pwysig. Pleser ydyw cyfarfod â'r canghennau yn eu gwaith yn trefnu, tacluso a grymuso'r mudiad. Cangen Bae Colwyn, wedi ymgodymu â llawer o anawsterau a'u goresgyn, yn magu digon o hyder i allu dweud wrth y swyddfa, Dyma ein pregeth ni, a dim Uai." Cangen Llandudno hefyd yn ennill tir newydd yr oedd yn bleser ymweld â'r dosbarthiadau yno, a chael derbyniad croesawgar i'r apêl am iddynt ymuno fel aelodau unigol â'r gangen a bod yn gyfrifol am addysg pobl mewn oed y cylch. Cangen Llyn yn dethol a didoli ei dosbarthiad- au yn ofalus, ac yn cymeradwyo'r dosbarth hwn i fod yn Diwtorial, un arall yn Ddosbarth Sesiwn ac un arall yn gwrs blwyddyn neu dymor. Dyna ardal a allai gario ymlaen heb y swyddfa, am mai'r gangen sy'n gwneuthur yr holl waith trefnu, ac yn dweud wrth y swyddfa beth sydd arnynt ei eisiau. Nid trefnu'r dosbarth- iadau rheolaidd yn unig, ond Ysgolion Undydd, Darlithoedd arbennig, ac yn goron ar y cwbl Ysgolion Haf Dibreswyl, tua phymtheg neu ragor bob haf. Canghennau Ardudwy a Phenrhyn Deudraeth yn ymwregysu i ragori ar y gorffennol, ac yn cynllunio i drefnu rhai cyfleusterau gyda'i gilydd. Cangen Dyffryn Ogwen-yn debyg i'r mynyddoedd sydd tu cefn iddi-gyda ni o hyd, ac yn gadarn fel craig yn cysgodi ei dosbarthiadau. Heb y canghennau i ofalu amdanynt ansicr