Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY FAINT, tybed, o'r myfyrwyr a oedd yn aelodau o un o'r dos- barthiadau flynyddoedd lawer yn ôl, sydd wedi cadw'r traethodau a sgrifenasant i'w hathrawon ? Bûm yn ffodus iawn yn cael meddiant ar ddau draethawd a sgrifennwyd gan aelod o'r dosbarth WEA cyntaf a gynhaliwyd erioed yn Neheudir Cymru. "Paham y dylai meibion a merched o weithwyr astudio economeg ydyw testun y cyntaf; a'r ail, "Sylwadau ar Lafur fel Elfen mewn Cynhyrchu." Yr oedd athro'r Dosbarth Tiwtorial yn y Barri dros ddeugain mlynedd yn ôl yn gydwybodol iawn. Ceir y nodiadau a'r sylwadau arferol ar ymyl y ddalen. Y sylw cyffredinol a geir ar y traethawd cyntaf ydyw Quité a good and thoughtful essay," ac ar yr ail, About the best essay I have had Ysgrifennwyd hwynt gan William Parry, ac y mae hwnnw yn awr yn tynnu at fod yn 83 mlwydd oed, ac mewn iechyd da; eithr nid ar gyfer y dosbarth cyntaf yr ysgrifennodd hwynt, ond i'r Dosbarth Tiwtorial a gynhaliwyd yn ddiweddarach, yn 1912-14. Treuliais brynhawn pleserus a phroffidiol iawn yn ei gwmni yn ddiweddar. Yn naturiol iawn, ef a wnaeth y siarad, a minnau yn gwrando. Oedd, yr oedd yn adnabod Dr Tom Jones pan oedd hwnnw'n ẃr ieuanc. Pedwar-ar-hugain o wyr a oedd yn y dos- barth y perthynai iddo. Byddai Tom Jones, fel y galwai ef, ynymwel- ydd mynych â'r DosbarthTiwtorial, a phan fethai eu hathro rheol- aidd, Russell Jones, ddyfod i'r dosbarth, Tom Jones fyddai'r darlithydd. Wrth gymharu'r ddau ddarlithydd, dywedai Mr Parry fod y dosbarth i gyd yn hoffi Tom Jones yn fawr iawn, am ei fod mor agos atom," ac am ei fod yn gallu egluro pethau yn well na'u hathro swyddogol. Cofiodd am un tro pan gynhaliwyd sosial diwedd y tymor yn nhy'r athro. Pan ddaeth Tom Jones i mewn, yr oedd pob cadair yn llawn. Cynigiwyd cadair iddo, ond fe'i gwrthododd, am fod yn well ganddo eistedd ar y sgytl lo yn agos i'r tân. Adroddodd stori arall hefyd. Gofynnodd Tom Jones iddo a oedd wedi darllen Das Kapital Karl Marx, atebodd Mr Parry nad oedd erioed wedi clywed sôn am Karl Marx, a rhoes Tom Jones fenthyg y llyfr iddo. Ymhen wythnos, dychwelodd y llyfr, gan ddweud ei fod yn methu ei ddarllen, ac nad oedd ganddo