Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY HANNER cant yn union o fyfyrwyr a restrwyd hyd yn hyn am y flwyddyn 1954-55. Fel arfer, y mae eu dosbarthiad daearyddol a galwedigaethol yn amrywiol ddigon. Daeth deg-ar- hugain o Ddeheudir Cymru, saith o'r Gogledd, wyth o Loegr, a'r gweddill o Affrica (sef un brodor o Uganda), yr Unol Daleithiau, Denmarc ac Awstria. Cynrychiolwyd rhyw ddwy-ar-bymtheg o alwedigaethau, yn amrywio o waith ffarm i wasanaeth mewn banc. Ymhlith yr hanner cant yr oedd wyth merch, dwy o Dden- marc a chwech o Gymru. Hyrwyddwyd y gorchwyl o greu cymdeithas gryno ac unedig o'r deunydd amrywiol hwn gan bresenoldeb nifer o fyfyrwyr a ddaeth yn ôl am yr ail flwyddyn. Yn wir, mewn llai na phedair- awr-ar-hugain yr oedd y gymdeithas newydd yn mynd yn un fintai gref i weld perfformiad gwych o Pygmalion Bernard Shaw ym Mhorthmadog, o dan nawdd Cyngor y Celfyddydau. Ac nid fel casgliad o unigolion yr aethant chwaith. Hawdd ydoedd canfod eu bod yn frawdoliaeth a deimlai fod yna deyrngarwch newydd wedi dod yn rhan o'u bywydau. Amheuthun yw gallu dweud bod ymateb yr Awdurdodau Addysg yng Nghymru yn gwella yn raddol. Yn y cyswllt hwn, carwn dalu teyrnged arbennig i Sir Forgannwg. Tua diwedd y flwyddyn o'r blaen penderfynodd y Pwyllgor Addysg roddi canpunt yr un i un-ar-ddeg o fyfyrwyr i'w galluogi i ddod i Goleg Harlech. Pan apeliwyd at y Pwyllgor i godi'r ffigur i gant a hanner yr un, fe wnawd hynny gyda'r parodrwydd mwyaf. Ar ddechrau'r tymor hwn, bu cyfarfod rhwng y Cydbwyllgor Addysg Cymreig a chynrychiolwyr Coleg Harlech, a gellir dweud yn ddibetrus y llwyddwyd i ennyn diddordeb dwfn y Cydbwyllgor yng ngwaith a swyddogaeth Coleg Harlech. Edrychwn ymlaen yn ffyddiog at gydweithrediad agosach fyth rhwng y Coleg a'r Awdurdodau Addysg. Yn fuan iawn wedi agor y tymor, daeth ein myfyrwyr drwy gyfrwng eu gwahanol gymdeithasau i gyfathrach agos â'u cyd- fyfyrwyr yng ngholegau'r Brifysgol. Cynrychiolir Cyngor Myfyr- wyr Coleg Harlech ar Gyngor Cymreig Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a da oedd gennyf ddeall mai nid peth ffurfiol yn unig yw'r cyswllt hwn. Gwneir cyfraniad sylweddol gan ein myfyrwyr