Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Ar Ddisberod ac Ysgrifau Eraill, gan Tegla Davies. Gwasg y Brython. 8/6. Catholiciaeth a Chymru. Crynhoad o Ysgrifau PabyddoL Llyfrau Sulien, arg. gan Wasg Gee. 2/6. VN y gyfrol ddymunol gyntaf ceir 30 ysgrif o wahanol fathau ac ar wahanol bynciau gan un o lenorion mwyaf amryddawn Cymru ysgubau ydynt, medd Tegla, a gasglwyd o amryw feysydd, yn enwedig o'r Herald Cymraeg. Daw doniau'r awdur yn amlwg i'r golwg yn y naill erthygl ar ôl y llall, a synnir ni gan ei ddiddordeb eang, ei sylwadaeth dry- lwyr, ei ddewis hapus o'i destunau a'i ddawn llenyddol adnab- yddus. Ymdrinir â nu mawr o faterion a rhoddir dwy ysgrif yr un i gymaint â phedwar pwnc (Peryglon, v-vi, Yr Argyfwng xi-xii, Yr Athrawiaeth xxii-xxiii, Gweddi ac Argyfwng xxviii-xxix). Erthyglau o natur grefyddol yw'r rhai hyn, a gwir yw hynny am rai eraill megis Datguddiad, Dydd Barn, Amgyffred (ix, xiii, xxv). Ni chamgymerem pe dywedem mai pregethau yw rhai ysgrifau, fel Cloffi, Gwaed Lawer (vii, xix ), ond ni byddai hynny'n wir am rai eraill. Yn y rhai hynny cawn nifer o ddisgrifiadau rhagorol, Ar Draws Gwlad, O'r Pulpud, Dosbarth y Dynion (xx, xxvi, xv). Ysgrif gref neilltuol yw'r gyntaf, Ar Ddisberod, gyda'i sylwadaeth dreiddgar ar nodweddion cyfoes ynglyn â chrefydd yn y nesaf, Ysbryd Glendid, cawn dipyn o athronyddu ar hanfodion Protest- aniaeth a Phabyddiaeth, ac yn y drydedd, Cappellophobia, daw hiwmor a gwatwaredd iach o'n blaen. Ymdrinir mewn mwy nag un ysgrif â Rhyfel ac agwedd yr Eglwys tuag ato. Ysgrif werth- fawr yw Hedrwm (xiv), a cheir trafodaeth olau yn yr ysgrifau ar yr Athrawiaeth ar dri dull o ddelio â Christ, sef Iesu Hanes, Crist Ffydd, a Christ Pregethu'r Eglwys (Beirniadaeth Ffurf, sef y dull diweddaraf o drafod yr Efengylau). Amlwg ydyw na all adolygiad gweddol fyr fel hwn gyfeirio at bob ysgrif, a digon fydd chwanegu bod yr iaith yn lân a chryf a'r eglurebau (megis am yr hedrwm, y mat carpiau, ac eraill) yn wir yn egluro pethau. Y mae, er hynny, angen trafod y gwyrthiau yn helaethach (t. 176), ac ni cheir yr holl wir am y disgyblion ar t.147. Yn yr ymadrodd hysbys, Duw oedd y