Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gair," ai cyfeirio a wneir yn ei gysylltiadau priod at Iesu hanes- yddol ai ynteu at y Logos tragwyddol ? Ac onid i'r bedwaredd ganrif (nid y drydedd) y perthyn gwaith Cystennin (t. 39, 117) ? Ac, yn yr holl gondemnio ar yr Eglwys am hyn a'r llall, oni thueddir i anghoiio dyled ein byd a'n gwareiddiad iddi Mân frychau yw'r rhai hyn mewn gwaith rhagorol a chymer- adwyir ef yn galonnog fel llyfr sy'n gyforiog o wybodaeth a doethineb, o sylwadaeth fanwl a thrafod hyfryd dros ben. Hyd- erwn y caiff y gyfrol y cylchrediad da a haedda ac y try Cymry o bob math yn aml ati yn y dyfodol. Casgliad diddorol yw'r ail gyfrol o ysgrifau wedi eu codi o wahanol bapurau a chylchgronau yn egluro ac amddiffyn syniadau Eglwys Rufain. Amrywiant o ran eu natur, ac mewn tair neu bedair ohonynt ceir amlinelliad byr o'r Ffydd Gatholig gan rai a'i derbyn. Y mae adolygiadau neu drafodaethau da ar Gymru a'r Hen Ffydd, ar Gyfundrefn Addysg Cymru ac ar Hamdden fel sylfaen Diwylliant, gyda chipdrem ar fywyd a gwaith y Tad Hughes, Abersoch. Ond nid yw'n anfri ar awduron yr erthyglau hynny honni bod gwerth pennaf y gyfrol fechan hon mewn tair ysgrif arall y naill gan J. Barrett Davies ar Uno'r Eglwysi, a'r ddwy arall gan Saunders Lewis ar Draddodiadau Catholig Cymru a Myfyrdod ar Ddyrchafael Mair Forwyn. Tri dewis, medd yr awdur cyntaf a'n hwyneba-dal i aros ar wahân, coledd Ecwmeniaeth sy'n aberthu gwirionedd er mwyn undeb, neu dderbyn Rhufain. Ysgrifau cryfion, digymrodedd a dysgedig yw rhai Saunders Lewis, gwaith llenor cyfarwydd yn hanes a llên Cymru ac un sy'n cerdded yn gartrefol hollol ym meysydd diwinyddiaeth hen a diweddar. Pa un bynnag ai cytuno neu anghytuno a wnawn â chynnwys y tair ysgrif hyn, dylid eu hystyried yn ofalus er mwyn penderfynu ein hagwedd yn ddiduedd tuag atynt. G. A. EDWARDS The SettUments of the Celtic Saints in Wales, gan E. G. Bowen. Gwasg y Brifysgol. 10/6. Ein Tywysogion, gol., Gwynedd Pierce. Plaid Cymru. 3/6. Mantais fawr yw cael un sy'n awdurdod ar ddaearyddiaeth i sgrifennu llyfr hanes. Mae awdur y llyfr ar Sefydliadau'r