Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hyfforddia Blentyn (Llawlyfr o Wersi ar gyfer Addysg Gre- fyddol yn Ysgolion Cymru), gan J. Wyn Roberts. Hughes a'i Fab. 7 /6. Oddeutu deng mlynedd yn ôl ffurfiwyd Cymdeithas Addysg Grefyddol yng Nghymru er mwyn llunio darpariaeth gymwys ar gyfer y dyletswyddau newydd a osododd Deddf Addysg 1944 ar athrawon yr ysgolion dyddiol. Yn 1945 cyhoeddodd y Gym- deithas, yn Gymraeg a Saesneg, Faes Llafur (SyUabus) ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau yn yr ysgolion, a rhoddwyd cefnogaeth ragorol iddo gan Awdurdodau Addysg Cymru. Ond amlwg ydoedd y byddai angen cyfarwyddyd ar athrawon, ac ychydig flynyddoedd yn ôl (1950) darparodd Evan J. Jones, o Goleg y Brifysgol, Aber- tawe, lawlyfr ar gyfer plant yn yr Ysgolion Uwchradd. Yn awr, wele lawlyfr ar y gwersi i'r Ysgolion Iau (7 i 9 oed a 9 i 11 oed) yn seiliedig ar y Maes Llafur. Ymddiriedwyd y gwaith i J. Wyn Roberts, a oedd yn athro yng Ngholeg Hyfforddi Wrecsam, ond bu ef farw cyn i'w lawlyfr gwerthfawr ymddangos. Ar gyfer Ysgolion Dyddiol y bwriadwyd ef yn y lle cyntaf, ond bydd yn werthfawr hefyd i athrawon yr Ysgolion Sul. Y mae'n hynod o glir a'i drafodaethau yn deg iawn, wedi eu sylfaenu ar wybodaeth drylwyr o'r Ysgrythur ac o nodweddion ac anghenion plant. Hyderaf y bydd llawer yn mynnu cael y llawlyfr rhagorol hwn ar unwaith, er mwyn eu cymhwyso eu hunain ar gyfer eu dyletswydd- au cyfrifol. HUGH HUGHES Cerddi'r Daith, 1920-1953, gan J. M. Edwards. Gwasg Aberystwyth. 5/ Yn y llyfr hwn ceir detholiad allan o'm gwahanol gyfrolau o'r cerddi hirion hynny y carwn weld eu cadw gyda'i gilydd." Dyna eiriau'r bardd ei hun yn ei Ragair. Y mae'r casgliad yn un pur lawn (67 o gerddi), yn ymestyn dros genhedlaeth o amser (1920-53), ac, yn well na dim, wedi ei ddewis gan y bardd ei hun. Rhydd inni gyfle da felly i farnu twf awen y bardd, ac yn anunion- gyrchol i fesur chwaeth awen Cymru yn y cyfnod hwn canys y mae J. M. Edwards yn un o'r fintai fawr o Gymry a fagwyd yn y wlad, a symudodd wedyn i gylch mwy trefol a Seisnigaidd, ac a barhaodd i farddoni. Un o fintai yn yr ystyr yna, ond bardd pur arbennig er hynny, a chanddo ei lais ei hun.