Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crwydro Meirionnydd, gan T. I. Ellis. Gwasg Llandebïe. 12 /6. Da o beth i ni fel Cymry oedd cael cyfrol hylaw fel hon i'n difyrru ein hunain â'i chynnwys, yn enwedig pan ydym mor ddiffygiol fel cenedl yn y math hwn o lyfrau. Gall pawb, yn hen ac ifanc, gael pleser digymysg wrth ddilyn yr awdur dawnus o le i le, o gwm i gwm, ac o fynydd i fynydd, drwy Sir Feirionnydd. Gresyn na fuasai llyfr rywbeth yn gyffelyb iddo i'w gael pan oeddwn i'n ifanc ac yn heini, i'm goglais gymaint fel ag i'm gorfodi i fynnu cael teithio yr un llwybrau a mynyddoedd ag a deithiodd Mr Ellis. Os na chyfyd hon awydd ymhob bachgen ysgol a choleg, a phob rhyw un i fyny i 50 mlwydd oed, am grwydro Meirion- nydd, y mae'n rhaid mynegi bod rhyw nam arnom. Er fy mod i'n bur gynefin â mynyddoedd Sir Gaernarfon, a rhai o fynyddoedd Sir Feirionnydd, cywilydd wyneb gennyf ddatgan fy amddifadrwydd o deimlo'r swyngyfaredd a gaifl teithwyr i'n mynyddoedd. Nid ydym at ein gilydd fel Cymry wedi magu greddfau pererindota hyd leoedd hyfryd ein gwlad, nac i ym- gydnabod â hud a lledrith ein cymoedd, ein nentydd a'n bryniau uchel. Nid cyfrol ydyw hon yn croniclo hanes yn fanwl, na chwaith yn dangos inni leoedd o hynafiaeth. Ni cheir ynddi drymlwyth sychlyd o gofnodion, na phentyrrau o ffeithiau nad yw'r cyffredin bobl yn malio ynddynt. Gwir fe esgeulusodd yr awdur sylwi ar lawer peth y buaswn yn hoffi eu gweled, ond petasai wedi gwneuthur hynny, buasai'r gyfrol heb os wedi myned yn ddiflas i'r mwyafrif. Ac am ei fod wedi astudio beth sydd orau i'r cyffredin bobl, y mae i'w longyfarch am ei ddetholiadau. Nid oes odid fangre yn y sir nad yw wedi ei phortreadu'n fyw iawn, ac fe gyfyd awydd ar filoedd am ymweld â hwynt. Nid oes gennyf i ddim beirniadaeth ger- yddol iddo am unrhyw ddiffyg yn y gyfrol, ond hoffwn edliw iddo am esgeuluso crwydro o'r Bont Ddu dros yr hen ffordd bwysig, a heibio i Lawlled i Ddyffryn Ardudwy a Harlech-ffordd yr aethpwyd â'r hen Vaughan o Gorsygedol drosti gan chwech o ddynion mewn cadair sedan lawer tro dros ddwy ganrif yn ôl, a'r unig ffordd am ganrifoedd yr âi'r barnwyr a'r ustusiaid i Harlech i'r Sasiynau. Efallai hefyd y caiff gyfle rywbryd i grwydro yr unig ffordd o'r Bala i Harlech gynt, drwy Gwm-y-moch Maentwrog, heibio i gopynnau Llandecwyn a Llanfihangel-y-Traethau, ffordd