Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y byddai'n rhaid i fwrdeisiaid y Bala ymorol gynt am osgorddwyr i ustusiaid a barnwyr llysoedd yn Harlech. Maddeued imi am ddannod hyn iddo yma. Heb betrustod yn fy meddwl, gallaf gymeradwyo'r gyfrol hon, hardd ei diwyg, gwych ei mapiau a'i darluniau, i bob Cymro gwerth ei halen, gan y caiff fwy na gwerth 12 /6 o bleser wrth ei darllen. BOB OWEN Detholiad o Ganiadau Elfed. Hughes a'i Fab. 3/6. Cerddi William Oerddwr. Gwasg Gee. 2 /6. Cerddi G. J. Roberts. Gwasg Gee. 2 /6. Dyma dair cyfrol o farddoniaeth, a da odiaeth eu cael. Y maent yn gyfrolau bach hylaw, â'r argraffwaith yn lân a destlus. Yn sicr, y mae lIe yng Nghymru heddiw i lu o lyfrynnau fel hyn, a dylai fod cip arnynt gan mor rhesymol y pris. Yn Caniadau Elfed, detholiad a geir o gyfrol hyn, a hysbysir y darllenydd mai'r awdur ei hun a'i detholodd-chwe mis union cyn ei alw adre. Yn y gyfrol hon ceir ymron holl ddarnau rhydd yr hen Ganiadau, ac un darn yn unig yn y mesur caeth, a chwan- egwyd penillion yma ac acw, gyda'r darn poblogaidd, Palmant y Dre, i gloi. Wrth fynd trwy'r gyfrol o gân i gân, daw'r hen anwyl- deb a'r hen felyster yn ôl. Gobeithiwn y dilynir y gyfrol hon gan ddwy arall o'r un maintioli, y naill yn cynnwys y darnau cyngan- eddol, a'r llall y darnau hir yn y Caniadau. Caniadau W. Ffransis Hughes yw Cerddi William Oerddwr, a rhydd T. H. Parry-Williams ragair cynorthwyol ar y cychwyn. Bardd bro yw awdur y cerddi hyn. Blas gwlad sydd ar y testunau, pobl gwlad yw'r cymeriadau, a phentref a ffridd yw'r cefndir. Y mae'r canu'n gartrefol a naturiol, gydag ambell ergyd anochel wedi ei chadw hyd y diwedd. Ar lawer o'r cerddi ar y cychwyn y mae naws yr ymyl ddu, ond erbyn cyrraedd y sonedau y mae'n grefftus a chyrhaeddgar iawn. Dyma gyfrol o gerddi y medr pawb eu dilyn a'u mwynhau, ac y mae mwy nag un darn addas i gyfar- fodydd diwylliadol. Ffrwyth awen G. J. Roberts yw'r drydedd gyfrol o gerddi, a chynnwys bryddest Coron Bae Colwyn 1947, Glyn y Groes, a phryddest radio, Enlli'r Pererinion. Gwerthfawr yw cael y ddwy bryddest yma mewn cyfrol gyda'i gilydd, a dosraniad yr awdur gyda nodiadau eglurhaol ar Glyn y Groes. Yn y cerddi byrion a'r