Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddwy bryddest ceir canu coeth a champ ar ymadrodd a dewis gofalus o air. Naws eglwysig sydd ar lawer darn, a'r awdur yn hiraethu am y gwell a fu. Nid llai cyrhaeddgar yw wrth ganu am Gymru heddiw. Dyma fardd a wybu o rin y fro o Bowys Fadog hyd Enlli. Y mae'n werth aros yn hir uwchben y gyfrol hon. W. E. JONES Llyfrau Darllen Dramatig, Llyfr I, gan W. H. Griffiths. Gwasg Gee. 2/6. Yn yr Adroddiad ar Le'r Gymraeg yn Ysgolion Cymru," cwynid oherwydd prinder dramâu Cymraeg i'w defnyddio yn y dosbarth, yn enwedig mewn ardaloedd lle y mae mwyafrif y plant yn siarad Cymraeg, a Ile dylai'r gwaith dramatig fod yn y famiaith. Dyma lyfr cyntaf ( o gyfres, gobeithio) sy'n cyfarfod a'r angen yn yr ysgolion cynradd gyda'r plant ieuengaf. Prin iawn ydyw llyfrau darllen dramatig yn Gymraeg, er nad oes hafal iddynt am ennyn diddordeb mewn darllen. Os bydd deunydd y darllen yn peri diflastod i'r plant, y mae ar ben arnoch i'w cael i ymhyfrydu mewn darllen. Un rheswm pwysig paham y mae rhai yn anllythrennog ydyw na chawsant ddysgu ddarllen gyda llyfrau diddorol, llyfrau a oedd yn rhoddi mwynhad iddynt. Nid darll en i ddysgu y bydd plant, ond darllen i gael diddanwch a hyfrydwch. Fe ddeuant i ddarllen er mwyn dysgu, ond nid cyn iddynt gael blas ar ddarllen. Llyfr yw hwn y bydd plant yn mwynhau ei ddarllen. Gellir ei ddefnyddio fel llyfr dosbarth mewn grwp. Ond nid llyfr dar- llen yn unig ydyw, y mae'n llyfr rhagorol i ymarfer llefaru a chyd-adrodd, i ennyn diddordeb mewn rhuthm a mydr barddon- iaeth, a hefyd i ymarfer actio. Unwaith y ceir y plant i ddarllen y dramodigau diddorol hyn, sydd i gyd ar fydr, ni fyddant yn fodlon nes cael eu hactio. Bydd yn llyfr gwerthfawr ar gyfer plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith hefyd, gan fod ynddo ail- adrodd cyson ar eiriau a brawddegau. Y mae'r argraffu yn glir a glân, a'r lluniau gan W. T. Williams yn rhagorol. Gellir cymeradwyo'r llyfr hwn, nid yn unig i ysgol- ion, ond hefyd i'r rhai sy'n chwilio am ddeunydd actio ar gyfer cyfarfodydd plant. ALUN OGWEN WILLIAMS