Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNGt NGHYMRÜ Cyf. XI HAF 1955 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD "yji WYFnewydd wrando ar Wasanaeth y Plant ar y radio, a chlywed plant Hen Golwyn yn cydadrodd Neges Plant Cymru am 1955, y neges a ddarlledir oddi wrth blant Cymru at blant y byd bob blwyddyn ar Ddydd Ewyllys Da, Mai 18. A chofio'r gwr a gychwynnodd y Neges, Gwilym Davies, a fu farw ychydig wythnosau'n ôl. Fe wnaeth Mr Davies waith mawr yn ei ddydd mewn aml gyfeiriad-sefydlu Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru yn Llandrindod bob blwyddyn, bod yn lladmerydd rhwng Cymru a Chymdeithas y Cenhedloedd yn Geneva, ac wedi hynny rhyngddi ac Unesco. Ysgrifennodd droeon am Unesco i LLEUFER. Ond y gofgolofn harddaf a erys i anrhydeddu ei goffadwriaeth- gwaith pwysicaf ei fywyd-ydyw Neges Plant Cymru, a gych- wynnwyd ganddo yn 1922. Trwy'r Neges hon daeth Cymru i gysylltiad agos â holl wledydd y byd derbynia plant y gwledydd y Neges yn eu hiaith eu hun, ac anfonant eu hatebion i Gymru mewn telegramau a llythyrau a rhoddion o bob rhyw. Pan ddechreuodd Ysgrifennydd Cym- deithas y Cenhedloedd ddarlledu'n flynyddol at blant y byd yn 1934, dyma oedd ei eiriau cyntaf:- Dydd Ewyllys Da ydyw heddiw, fel y gwyddoch. Y mae awyrgylch yr hen ddaear yma'n crynu gan negeseuau cyfeill- garwch a ddarlledir dros yr holl fyd-Neges Plant Cymru, a'r atebion i'r Neges honno oddi wrth blant y pum cyfandir, a'r ynysoedd pell. Clod go fawr i wlad mor fechan â Chymru oedd bod Ysgrifennydd Cymdeithas cenhedloedd y byd yn sôn amdani hi yn gyntaf oll wrth anfon ei neges gyntaf allan i gyfarch plant pob gwlad. A phan awgrymodd Swyddog Addysg yn Fienna yn 1936 fod eisiau dathlu gwyliau cydwladol yn ysgolion y byd, dywedodd:- Neges Plant Cymru ar Fai 18 ydyw'r unig Wyl Flynyddol Gydwladol a gedwir hyd yn hyn; fe ddylai gaellle ar daflen gwaith pob ysgol.