Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhai blynyddoedd yn ôl, mi awgrymais i 'nghyfaill Gwilym Davies gynllun llyfr, a diolchodd imi am y splendid idea." Nid oes neb eto wedi sgrifennu'r llyfr petawn yn ieuengach dyn, a chennyf fwy o hamdden a nerth, mi awn ati'n llawen i geisio'i sgrifennu fy hun, ond rwy'n gobeithio y cyflawnir y dasg gan rywun cymhwysach. Fe wnâi Neges Plant Cymru eithaf teitl iddo rhyw gyfuniad fyddai o hanes y Neges, ac o lawlyfr daear- yddiaeth ffasiwn newydd yr un pryd. Rwy'n siwr y gellid ei wneud yn ddigon diddorol i'r plant gael blas arno yn yr ysgolion. Dyma'r cynllun. Wedi adrodd hanes y Neges yn cychwyn o Gymru, fe'm dychmygwn fy hun yn ei dilyn i wahanol wledydd y ddaear, a gweld y plant yno yn ei derbyn a'i chroesawu. Li dilyn i'r Aifít, efallai, a Swyddog Addysg y wlad honno yn ei darlledu i blant yr holl ysgolion yn eu hiaith eu hun. Disgrifio'r plant, a'r wlad o'u hamgylch, eu cartrefi a'u dillad a'u bwyd, eu rhieni wrth eu gwaith beth bynnag fyddai'r gwaith hwnnw, a chwaraeon a chaneuon y plant eu hunain. Mapiau a digon o luniau da i bortreadu'r cwbl. Yna'r plant yn mynd ati i anfon at blant Cymru atebion i'w Neges. Rhai'n ysgrifennu llythyrau, rhai'n gweithio yn eu dosbarthiadau yn tynnu lluniau o'u gwlad mewn llyfrau, neu!n pastio rhai, a phlant eraill yn gwneud teganau neu ddoliau Eifìtaidd i'w hanfon yn rhodd i blant Cymru, a'r rheini'n cael eu hongian ar y parwydydd, un ai yng Nghartre'r Urdd yn Aberystwyth, neu yn yr ysgolion ledled Cymru. A lluniau rhai ohonynt yn y llyfr. Dilyn y Neges wedyn i ryw ran arall o'r byd. I India'r Dwyrain, a gweld yr ysgolorion mewn Ysgol Uwchradd ym Malacca yn gofyn i'w capten, Tay Koon Lin, anfon at blant Cymru dros- tynt i ddweud, Fe wisgwn y genhinen ar Ddydd Gwyl Dewi." Neu i'r Yswistir, a gweld plant Bâl yn anfon pren derw bythwyrdd i'w blannu yn naear Cymru. Neu i Archentina, yn Neau America, i weld yr Ardd Heddwch odidog a blannodd y plant yno, yn cynnwys blodau a choed i gynrychioli'r gwahanol wledydd- fioled Sbaen, derwen yr Almaen, lili'r dyffrynnoedd Sweden a Ffinland, cenhinen Pedr Cymru, a blodau eraill i gynrychioli pob gwlad. Ac yn y ffordd hon, dwyn plant Cymru i adnabod holl blant y byd, a gwybod am y gwledydd y maent yn byw ynddynt.