Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

powdr llysiau siopiau chwedl Guto'r Glyn. Enwa'r bardd rai ohonynt wrth ganu am y bwyd a gâi yn nhy Sieffre Cyffin Sinsir a welir ar fwyd A graens da rhag yr annwyd Sinamwm, clows a chwmin, Siwgr, mas, i wresogi'r min. Pob rhyw fwyd mewn pupur a fai O fewn siaffr a fyn Sieffrai Lliwio sew â llysieuoedd Llaw Siân ar y llysiau oedd. Eithr y llysiau cyffredin a ddefnyddiai gwraig y ty wrth goginio cig a gwneuthur saladau a chordialau a fu'n bwysig yn natblygiad yr ardd. Casglwyd y rhain o'r meysydd a'r coedydd a'u traws- blannu a'u hau yn drefnus yn ymyl y ty mewn man cyfleus i'r cog. Yr oedd yn eu mysg lysiau a ystyrir yn addurnol yn unig bellach, megis briallu a fioledau a rhosynnau, ac amryw flodau eraill. Ond gynt yr oedd y rhain yn bwysig fel defnyddiau crai cyfleithiau a melysion. Ond pwysicach na gwraig y ty hyd yn oed yn hanes datblygiad yr ardd lysiau oedd y meddyg. Llysieuol gan mwyaf oedd def- nyddiau crai ei gelfyddyd ef, ac nid oedd odid blanhigyn nad oedd ynddo ryw werth meddyginiaethol. Felly rhaid oedd i ardd y meddyg fod yn gynhwysfawr iawn. Cyfuniad o bob math o ardd oedd ei ardd ef. Dygwyd iddi y llin lliwus o'r ardd lin oherwydd rhinweddau'r had. Daethpwyd â choed cyll a helyg o'r ardd wiail oherwydd gwerth y ffrwyth a'r rhisgl. Megis y cog fe gasglai'r meddyg y blodau bwytadwy i gyd a rhai eraill hefyd fel bysedd y cŵn at glefyd y galon, a gwyddfid a'r lili. Meithrinai hefyd y llwyni persawrus megis lafant a hen wr a meryw. Byddai hyd yn oed y gwrych a amgylchynai'r ardd yn llawn amrywiaeth feddyginiaethol:-drain duon y defnyddid eu rhisgl rhag haint y galon, celyn rhag y ddueg, bocs rhag brath ci cynddeiriog, a'r ysgaw aml eu rhinweddau. I weld holl gyfoeth gardd y meddyg gynt, i sylweddoli mor ddyledus ydyw garddwriaeth i'r dyn hwnnw, ni raid ond agor un 0 lysieulyfrau ei grefft. Ni chyfyngwyd y planhigion meddyginiaethol i erddi'r medd- ygon, wrth gwrs. Ar ôl profi eu rhinweddau, ymddangosent yn y gerddi teuluol hefyd, oblegid meddyg iddo'i hun fyddai pawb i raddau.