Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ISRAÉl HiîJDIW GAN ALISA WIRZ A FUASECH chwi'n ysgrifennu rhywbeth am eich gwlad ?" gofynnodd golygyddion cylchgrawn i mi y dydd o'r blaen. Wrth gwrs, fe garwn wneud. Ond eto, y mae cant a mil o bethau i'w hadrodd. A ddywedaf wrthych fel y byddem, yn blant, yn ymarfer yn ddirgel ar gyfer y diwrnod mawr pan fyddem yn ym- ladd yn agored i sefydlu gwladwriaeth annibynnol Israel ? Neu, a ddywedaf sut yr adeiladwn ein gwlad newydd­fel y sychwn y corsydd llawn malaria i ennill tir o'r newydd fel y cliriwn y creigiau oddi ar dir mynyddig a fu'n foel am filoedd o flynydd- oedd fel yr ydym, mewn gwirionedd, yn golchi'r pridd ger y Môr Marw i gael gwared o'r halen sydd ynddo fel y mae Iddewon o bob rhan o'r byd yn dylifo i'n gwlad fechan (tua hanner maint Cymru)-o Arabia ac India, America ac Awstralia, o Loegr ac Ewrop, o Ogledd a De Affrica-ac fel y gwnawn bawb eiran yn y gwaith o adennill yr hen wlad feiblaidd, a'i gwneud unwaith eto yn wlad yn llifeirio 0 laeth a mêl ? Gellir adrodd straeon gwyrthiol am yr arloeswyr a aberthodd bopeth i sefydlu'r kibbutzim (cymdeithasau amaethyddol bychain) yn yr anialwch; ac am ein hieuenctid a ymladdodd ac a enillodd y rhyfel yn erbyn y miliynau ac yn olaf am y miloedd o bobl a ddychwelodd atom o bedwar ban byd. Ond llanwai'r hanes- ion hyn gyfrolau lawer, ac felly fe'm cyfyngaf fy hun heddiw i un pwnc arbennig. Er pan gyrhaeddais i Gymru, bûm yn ymwybodol o'r frwydr fawr sy'n bod yno ynglyn â'r iaith Gymraeg. Felly, teimlaf y bydd ein hachos ni o ddiddordeb i chwithau Fel y gwyddoch, Hebraeg fu iaith yr Iddewon unwaith; dyma iaith wreiddiol y Beibl [sef yr Hen Destament]. Wedi dinistrio'r Deml, a chwalu'r Iddewon i wledydd eraill, mabwys- iadasant iaith y cenhedloedd y trigent yn eu plith, ac o hyn ymlaen mewn gweddi yn unig y defnyddid yr Hebraeg. Gyda dyfodiad y Mudiad Seionaidd ar ddechrau'r ganrif, gwelodd yr arweinwyr, a fwriadai ddychwelyd i Seion ac ail- adeiladu hen wlad yr Iddewon, fod yn rhaid adnewyddu'r hen- iaith, un o'r ychydig rwymau a unai'r bobl Iddewig. Cyhoedd. wyd geiriadur Hebraeg, a sefydlwyd Pwyllgor Iaith i adfywio'r