Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddofn arnaf gan y IIetygarwch Cymreig, a hynawsedd a charedig- rwydd y Cymry. Yn olaf, bu'n bleser cael hyfforddi rhai o'r ieuenctid yn Ysgol Blaenau Ffestiniog. Hoffwn fynd ymlaen gyda hwy hyd ddiwedd y flwyddyn. Fy nymuniadau gorau i bawb-i'r plant, yr athrawon a'r prifathro-" Shalom Aleichem (Heddwch i chwi) a Diolch yn fawr YR YMNEILLTUWYR A'R METHODISTIAID YN 1806.-Gweddïant a phregethant o'r frest, a pheth sydd yn nodedig ynddynt ydyw bod pregethwyr Gogledd Cymru yn llefaru yn nhafodiaith y De, a thrwy hynny wedi dwyn llawer o eiriau ac ymadroddion new- yddion i mewn i eirfa'r Gogledd, geiriau ac ymadroddion a oedd yn ddieithr yma cyn dyfod cyfnod Methodistiaeth. Fe ym- ddengys fod yn hoff ganddynt lefaru yn acen neu oslef y De, megis y bydd y Pabyddion yn eu defosiynau hwythau yn dewis yr iaith Ladin o flaen pob iaith arall.­·(cyf. o) William Williams, Llandygâi, yn NLW 821C. Yr arfer mewn priod-ddulliau Cymraeg ydyw dweud bod pethau annymunol arnom, a phethau dymunol gennym. Ni bydd eisiau arnaf," mae ofn ar f'enaid gwan," oes arnat- ti annwyd ? "nid oes arnaf gywilydd." Ond y mae ganddi ffydd," mae gennym bob sicrwydd," "ni fuasai gennyf obaith," roedd ganddo ddigon o blwc." Priod-ddull anghywir ydyw mae genni ofn." Nid yw fy storïau yn faith ond fe gymerodd imi amser maith i'w gwneud yn fyrion.-H. D. Thoreau.