Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFILM A'R ATHRO GAN T. CEIRIOG WILLIAMS Wales and Human Rights. Ffilmiau a Nodiadau, gan Bwyllgor Cymru o Unesco. 8 /6 yr un. RHODDIR pwyslais heddiw ar ddysgu trwy gyfrwng visual aids ac y mae posibiliadau mawr yn y film strip fel un o'r cyfryngau hyn. Fel ym mhopeth newydd, y mae perygl camddefnyddio'r cyfrwng. Fe'n rhybuddir o hyn yn ddigon aml yn yr ysgolion, ac ni ellir gorbwysleisio'r perygl. Dull ychwanegol ydyw i ennyn diddordeb neu i argraffu pwnc ar y meddwl. Cynllunir ffilmiau, a siarad yn gyffredinol, i bwrpas arbennig gan y casglwr, a hawdd iawn ydyw i'r sawl a'u ben- thyco gamddeall ei bwyslais ef. Gall hyn droi yn ddiflastod i'r disgyblion, ac efallai y bydd i'r wers droi'n fethiant. Yn aml iawn, cesglir y darluniau wedi i'r athro weld angen am ffordd newydd i grynhoi'r gyfres wersi. Y felltith ydyw bod perygl i'r ffilmiau syrthio i ddwylo un sy'n edrych am ffordd hawdd i lenwi amser Y mae'n arferol rhoddi nodiadau ar gyfer pob ffrâm, a chofier mai crynhoad o wybodaeth ydynt, a deunydd llawer gwers mewn un ffrâm. Gobeithio y goddefir gair bach o rybudd fel hyn, rhag ofn bod rhai o ddarllenwyr Llettfer heb brofiad o'r film strip. Bu Pwyllgor Cymru yn gweithredu ar ran UNESCO i baratoi cyfres o ffilmiau o dan y pennawd Wales and Human Rights." Y mae pedair o'r wyth ffilm y bwriedir eu gwneud yn barod eisoes dwy ar gefndir hanes Cymru, y drydedd ar Yr Hawl i gael Addysg," a'r bedwaredd, Yr Hawl i Addoli." Cynnwys y Bwrdd Golygyddol wýr profiadol yn y maes-William Rees ac E. J. Jones, A. H. Williams, D. E. A. Roberts a T. G. Jeffreys Jones. Peidied neb â danfon am y ffilmiau hyn ar gyfer un noson o adloniant adeiladol. Cofier mai ffordd neilltuol o gyflwyno maes eang hanes a geir, dim ond awgrymu agwedd neilltuol trwy bynciau arbennig. Y mae pob un o'r ffilmiau'n faes llafur tymor. Credaf mai'rffordd orau i'w defnyddio fyddai cymryd un ohonynt, a'i dangos ar ddechrau'r tymor, i'r disgyblion gael gweld unol- iaeth y gwaith o'u blaen. Dim ond cipolwg a geir, a rhaid deall hynny. Yna, ar ddiwedd y tymor, ail-ddangos y ffilm i gloi'r gwersi fel math o adolygiad.