Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DERYN TO GAN ROBERT RICHARDS (Byddai gan Robert Richards gariad mawr at adar bob amser, a diddordeb mawr ynddynt. Ysgrifennodd ysgrif ddiddorol iawn, Ymfudiad yr Adar, yn Y Tyddynnwr. Bydd llawer o Aelodau'r Senedd sy'n byw ymhell o Lundain yn arfer mynd adref Ddydd Gwener, ond un Dydd Gwener, Rhagfyr 4, 1953, arhosodd Bob ar ôl, am fod Mesur Diogelu Adar Gwylltion, o dan ofal Arglwyddes Tweedsmuir, i gael ei Ail Ddarlleniad, ac yr oedd arno eisiau cymryd rhan yn y drafodaeth. Yr oedd nifer o Restrau (Schedules) ar ddiwedd y Mesur; cynhwysai'r Rhestr gyntaf enwau adar a oedd i'w hamddiffyn yn gyfan gwbl, a'r Ail Restr enwau adar y gellid eu lladd os byddent yn rhy luosog. Dyma gyfieithiad o Hansard o'r araith a draddododd Robert Richards). "Y"R WYF yn siŵr fod yr holl Dý wedi ei foddhau yn fawr gan y derbyniad a gafodd y Mesur hwn, ac yn neilltuol gan y ffordd y cyflwynwyd ef gan yr aelod anrhydeddus dros Dde Aberdeen (Arglwyddes Tweedsmuir). Y mae'r Mesur ymhell ar ôl ei amser. Ein dull o amddiffyn adar gwylltion hyd yn hyn oedd caniatáu i gynghorau sir a chyng- horau bwrdeisdrefi sirol wneud eu rhestrau eu hunain o'r adar y dymunent eu hamddiffyn. Y mae cannoedd lawer o'r rhestrau hyn, ac yn naturiol ddigon y maent yn anghytuno a'i gilydd yn llwyr. Cawn rai adar yn cael eu hamddiffyn mewn un sir nad amddiffynnir mohonynt o gwbl mewn sir arall-safle anobeithiol o anghyson. Y mae'r Mesur hwn yn ceisio gwella hyn drwy Adran Gyffredinol i ddarparu amddiffyn dros bob adar, eu nythod a'u hwyau. Y mae eithriadau, wrth reswm, o achos nid ydym yn cytuno i gyd ynghylch pa adar y dylid eu hamddiffyn. Felly, y mae gennym nifer o Restrau, yn rhoddi enwau'r adar yn ôl y graddau o amddiffyniad y dymunwn ei estyn drostynt. Yn y Rhestr Gyntaf cawn enwau adar y mae pawb ohonom yn awyddus am eu hamddiffyn yn gyfan gwbl. Ni chwyna neb rhag y cosbau y cynigir eu gosod ar bobl a fydd yn troseddu yn erbyn y Rhestr hon­os na chwyna rhywun eu bod yn rhy ysgafn. Fy unig gwyn i yn erbyn y Rhestr hon ydyw y buasai'n dda gennyf-fel y rhan fwyaf o bobl, y mae'n debyg-petasai rhai