Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y deryn to, ond gorchmynnir yn arbennig nad oes neb ond pobl awdurdodedig yn rhydd i wneud hynny). Ie; y mae'n ddrwg gennyf na fuaswn wedi galw sylw at hyn, ond y sawl a gaiff drwydded gan y pwyllgor amaethyddol fydd y gwr awdurdodedig, a'r peth hawsaf yn y byd ydyw cael honno. Gall y ffermwyr, beth bynnag, ddwyn rhyw fath o gyhuddiad yn erbyn yr adar to gerbron y pwyllgorau amaethyddol, a'r can- lyniad wedyn fydd rhoddi trwyddedau i lawer o bobl i ddifa'r adar bach diwyd hyn. Ar wahân i'r cwynion hyn ynglyn â'r Rhestrau-Rhestrau a newidir yn drwyadl ynghwrs amser, gobeithio-croesawaf y Mesur hwn â'm holl galon, oblegid credaf ein bod, am y tro cyntaf, wedi dechrau trin y pwnc anodd hwn mewn ffordd resymol. Rwy'n sylweddoli'n llawn fod pob math o anawsterau ynghlwm wrth y cynigion hyn, ond dylem fod yn falch ein bod ni yn y wlad hon yn barod o'r diwedd i wneud yr hyn a allwn i ddiogelu'r adar sydd yn rhoddi cymaint o bleser i gynifer o bobl. Yng Nghymru rhoddwn seintwar i rai o'r adar prinnaf a geir yn yr ynysoedd hyn. Ar ein harfordir, ac yn rhannau geirwon ein mynydd-dir a choedwigoedd ein dyffrynnoedd, darparwyd hafan ddiogel i rywogaethau prin a adar y mae perygl iddynt ddiflannu o'r byd. Mi glywais fod y barcut coch ar fin ei ddifodi ddeugain mlynedd yn ôl, ond daeth nifer o bobl haelfrydig yn y Dywysogaeth at ei gilydd a phenderfynu rhoddi eu harian a'u hamser i geisio ei amddiffyn. Heddiw, Canolbarth Cymru ydyw noddfa olaf y barcut coch yn y wlad hon.-George Thomas, yn Nhŷ'r Cyffredin. Mynych y gelwir llysiau ar enwau cymalau neu ermigau anifeiliaid, oherwydd tebygrwydd ffansïol eu dail, neu eu ffrwyth, neu eu hadgibau, neu eu rhywbeth i'r cyfryw rannau. Glywsoch chwi sôn am fysedd y cwn, a barfyr afr, a chlust yr arth, a charn yr ebol, a chynffon y llygoden, a chorn y carw, a dant y llew, ac eirin y ci, a llygad yr ych, a phig y gog, a thafod yr hydd, a throed y dryw, a thrwyn y llo ?-Richard Morgan.