Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLINYN ARIAN GAN IORWERTH C. PEATE Carcharor ydyw Dyn mewn cell fach lom Yn gweithio'i derm dan farnedigaeth drom, A gwaith ei law ef yw pob gefyn cudd,- Pob rhyw gythreuldeb sydd, boed gloc, boed fom. Hen gaethwas Amser Truan ydyw Dyn Dan iau yn ufuddhau i'w was e'i hun, A thorri'r llinyn arian main a dry Bob Yfory, Heddiw a Doe i gyd yn un. Ond nid ei dorri'n llwyr nid ungainc yw Llinyn cyfrodedd maith ein dyrys fyw. Erys rhai ceinciau'n eddi yn eu tro I gydio ysto wrth ysto i'r gwehydd Duw. Neithiwr dychwelais draw i Lan y Llyn Lle gynt y treuliais oriau 'more gwyn A chlywed eto freudinc dwr tros ro, A chyffro isel chwa'n y glennydd hyn. Y gwenyn yn eu cwch, a'u mwmial prudd, Ceiliogod rhedyn yn eu cestyll cudd,- Disgyn tangnefedd tros fy mychan fyd, Ac erys hen, hen hud tros riniau'r dydd. O'r gweithdy draw y seiniau a ddaw i ddyn Yw unsain llif fy nhad, a berglec cyu, Rheiol orawen plaen dan fedrus law, Ar daith ddi-daw i'w ddiben sicr ei hun. Tros Sali'r Pandy, hi a'i chernau crin, Y chwysa'r crefftwr ac y pyla'r min Gorffennwyd arni waith blynyddoedd chwim Ac ni bydd mwyach ddim ond sgrwd mewn sgrin.