Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLANSANNAN FEL Y MAE GAN ROBERT OWEN GELLIR dweud mai yng nghefn gwlad y trigwn o hyd­yn y tawel hedd-er bod glan y môr a'r trefi o amgylch wedi dod yn beryglus o agos atom erbyn hyn. Draw i gyfeiriad y pedwar pegwn oddi yma ceir Llanrwst, Abergele, Dinbych a Phentre- foelas. Arferid dweud gynt mai deng milltir a oedd i bob man o Lansannan, ond i'r nefoedd, gan awgrymu bod y lle hwnnw yn nes. Os oedd hynny'n wir gynt, amheuwn a yw yn wir heddiw. Ofnwn fod lleoedd sydd yn llawer nes i Lansannan na'r nefoedd erbyn hyn. Yn y blynyddoedd diweddar, ar ddyddiau gwaith ac yn arbennig ar Sadyrnau, ac yn rhy aml ysywaeth ar y Sul hefyd, caiff llawer o'n pobl esgus i fynd i gymowta i lan y môr, ac i leoedd eraill-rhai er mwyn eu hiechyd, eraill i siopa, eraill i basio amser. Lliw dydd golau, â pawb o gwmpas ei fusnes ei hun yn ddigon detha ac onest. Ni cheir yma neb yn segura, na neb allan o waith. Ardal fywiog ydyw, ac yn ddihareb am amlder ei chyfarfodydd. Y mae hwyrnosau'r gaeaf i gyd yn orlawn. Pe gellid tocio ein cyfarfodydd a'n pwyllgorau i lawr i'r hanner, dichon y byddai gwell graen ar yr hanner arall. Ni welais eto ardal a chyn lleied o gulni enwadol ynddi. Undebol yw'r rhan fwyaf o'n cyfarfodydd ar wahân i'r Sul-cyfarfod gweddi, yr wyl ddiolchgarwch, cyfarfod dechrau'r flwyddyn, cymanfa bregethu'r bobl ieuainc, y gobeithlu,. Sul y Plant, a Chymdeithas Moes a Chrefydd. Bu'r ardal hon gynt yn ardal unig, anghysbell. Erbyn heddiw,. tynnir ni fwyfwy i ganol llifeiriant yr oes yn ei wych a'i wachuL Daeth rhai pethau da yma o'r tu allan, megis Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a'i dosbarthiadau nos. Ym mlynyddoedd y rhyfel, daeth llawer o Saeson uniaith i fyw i'n plith, ac i fargeinio am y tir uchel. Bu teuluoedd Cymreig niferus ac ardderchog yn byw yn yr hen ffermydd hyn am genedlaethau. Buont yn asgwrn cefn i fywyd gorau'r ardal. 0 gartrefi fel hyn y cododd enwogion Llansannan doe ac echdoe. Heddiw y mae'r hen deuluoedd nobl hyn wedi cilio, a Saeson uniaith wedi dod yn eu lle. 0 saf- bwynt y bywyd Cymreig rhaid imi ddweud nad ydynt yn werth eu halen. Ni chyfrannant ddim o gwbl i fywyd y fro. Ant i ffwrdd ryw ddiwrnod, gobeithio, ond ofnir mai tlawd a di-siâp fydd y tir a'r bywyd Cymreig ar eu hôl.