Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARADR GYMREIG GAN D. WYNN PARRY Yr Aradr Gymreig, gan F. G. Payne. Gwasg y Brifysgol. 12 /6. A R yr olwg gyntaf, efallai, ymddengys y llyfr hwn, a gyhoedd- wyd trwy gydweithrediad Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Gwasg ein Prifysgol, braidd yn ddianghenraid. Gallaf feddwl am amryw byd o gefn gwlad Cymru heb weled ei wir angen yn yr oes fecanyddol, beirianyddol hon. Y mae'r aradr, boed bren neu haearn, yn llusgo tu ôl i wedd bwyllog o geffylau cryfion, bron darfod amdani; nid oes gan y dyfodol ond y tractor a'i aradr amlgwys i'w gynnig. Pa werth felly wrth gyfrol fel hon, o ddau gant o dudalennau, yn manylu â hanes a datblygiad yr aradr Gymreig gan gychwyn yn yr Oes Bres a gorffen yn yr oes fodern hon ? Cynnyrch gwareiddiad a ddechreuodd pan adawodd dyn ei fywyd o hela a dechrau cartrefu mewn man arbennig yw holl offerynnau'r tir. Diddorol ydyw dychmygu, ac ni ellir arall, pa lun a gwedd a oedd ar y teclyn cyntaf y gafaelodd dyn ynddo i fraenaru wyneb y tir. Dyfais ddiweddarach a roddodd fod i droi'r pridd â'i wyneb i waered a defnyddio rhyw anifail i gyn- orthwyo yn y gwaith. Ychydig a wyddys am yr offerynnau cyntaf hyn, ond wrth fanylu â'i ddefnyddiau crai, a sôn am y dystiolaeth gynharaf sydd ar gael heddiw o aredig yng Ngogledd Ewrop, a chyfeirio at ddarluniau o wŷr ag erydr wedi eu cerfio ar greigiau yng nghymoedd uchaf yr Alpau Deheuol, rhydd Mr Payne ddarlun clir inni o dri math o'r erydr cynnar hyn. Y mae amryw agweddau diddorol a phwysig yn perthyn iddynt; perthyn i un math ddwy swch, un ar ben y llall, dyna ddechrau cyflawni gwaith cwlltwr Oes yr Haearn. Nid oedd angen y gwir gwlltwr yn yr Oes Bres gan fod yr hinsawdd yn llawer cynhesach nag yr oedd yn Oes yr Haearn. Diddorol ydyw sylwi yma fod yr erydr a ddefnyddir heddiw gan werinwyr y trofannau heb gwlltwr yng ngwir ystyr y gair. Nodyn diddorol arall yw'r rhesi tyllau a welir yng ngwadn y trydydd math o aradr a ddisgrifir. Gwthid cerrig i'r tyllau hyn i amddiffyn y wadn bren rhag gwisgo. Cafodd y ddyfais hon hithau hir oes fe'i defnyddiwyd yng Nghymru hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol-yr unig wahaniaeth oedd bod hoelion mawr wedi cymryd lle'r cerrig erbyn hynny.