Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS AR HYN o bryd, y mae gobaith y diddymir y seilin ar y grantiau a roddir gan y Weinyddiaeth Addysg at gostau Addysg Rhai mewn Oed at y tymor nesaf. Tybiaeth ydyw hyn, ond tybiaeth wedi ei sylfaenu ar atebiad y Gweinidog Addysg yn y Senedd ychydig amser yn ôl, i gwestiwn ynghylch ei fwriad yng ngoleuni Adroddiad Pwyllgor Ashby. Dangosai ei atebiad ei fod yn ffafriol i argymhellion y pwyllgor hwnnw. Nid yw'r Adroddiad hwnnw yn un chwyldroadol, ond y mae'n rhoddi ateb pendant i'r sawl sy'n amau dilysrwydd y WEA, neu bwysigrwydd a gwerth y cydweithrediad rhyngom a'r colegau. a'r prifysgolion, hefyd a'r Awdurdodau Addysg. Gobeithiwn weld ffrwyth yr Adroddiad yn dod i'r amlwg y tymor nesaf. Y mae'r gwaith ar y gweill i sefydlu amryw ganghennau newydd, ac ail-gychwyn rhai a fethodd. Disgwyliwn weled rhai yny Fflint, Bwclai, Gwernymynydd a Thegeingl ynSir Fflint Amlwch, Llanerchymedd, Brynrefail, Llanddaniel, Bodedern a'r Borth yn Sir Fôn ac un rhwng Carrog, Corwen a Glyn- dyfrdwy ym Meirion. Hefyd, Rhosllanerchrugog, y Cefn a'r Garth yn Sir Ddinbych Caernarfon a Rhyd Ddu, ac o bosibl Penmachno a'r Cwm, yn Sir Gaernarfon. Trefnwyd noson arbennig rhwng dosbarthiadau Carrog,. Corwen a Glyndyfrdwy, i ffurfio cangen, a Chadvan Jones, yr Athro Llawn Amser, yn darlithio yno. Fe sefydlwyd y Gangen, a dewiswyd swyddogion, a chynrychiolwyr o'r tri dosbarth yn bwyllgor. Cefais hanes diddorol am ddosbarth Carrog yn cynnal noson adloniadol a swper wedi diweddu'r cwrs. Cyflawnder o ddan- teithion cartref," meddai'r ysgrifenyddes. Ie, rwy'n siwr fod yno noson ardderchog, a Mrs Cadvan Jones wedi cael gwahoddiad yno gyda'i gwr. Canwyd nifer o benillion gan un o'r aelodau i ddathlu'r amgylchiad dyma'r pennill olaf yn unig 'R ôl tymor mor flodeuog, Darlithoedd mor ardderchog, Pwy wyr na chyfyd fore wawr Ryw Blato mawr o Garrog ? Natur Dyn oedd pwnc y dosbarth.