Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY MEWN un wythnos, ym mis Ebrill, dioddefodd canghennau Abertawe a Chaerfyrddin a Chaerdydd, ac wrth gwrs Ranbarth Deheudir Cymru, golledion trymion a difrifol. Trwy farwolaeth Llewellyn John, Abertawe, Tudor Williams, Caer- fyrddin, a W. D. Evans, Caerdydd, amddifadwyd y mudiad o dri chyfaill cywir na ellir byth brisio yn llawn eu dylanwad ar Addysg Pobl mewn Oed yn Neheudir Cymru. Cymeriad hawddgar ydoedd Llewellyn John. Bu'n Is-lywydd Rhanbarth y De am flynyddoedd lawer, ac yn aelod o'i Gyngor Gweithiol. Bu'n Gadeirydd Cangen Abertawe, ac wedyn yn Llywydd arni am ei oes yr oedd yn aelod o Gydbwyllgor Coleg Abertawe ac o'r WETUC. Byddai ei frwdfrydedd dros y WEA yn heintus. Yr oedd Tudor Williams, prifathro'r Ysgol Ramadeg, yn weithgar iawn gyda mudiadau diwylliannol yng Nghaerfyrddin. Ef oedd Cadeirydd Cangen Caerfyrddin, a chadeirydd rhagorol ydoedd, a bu'n aelod o Bwyllgor Gweithiol y Rhanbarth am 15 mlynedd. Bu'r Parch. W. D. Evans yn Athro Dosbarthiadau am oddeutu 25 mlynedd. Yr oedd ei ddosbarth olaf yn Aberafan, Merthyr, yn un rhagorol, ond torrwyd ar ei waith ynddo yn sydyn ac annis- gwyl. Yr oedd Mr Evans yn athro tan gamp, yn dawel ac yn addfwyn, ond yn effeithiol dros ben. Carai ei ddisgyblion ef oherwydd ei ddull a'i ysbryd hynaws. Yr ydym yn gofidio am eu colli, ac yn anwylo eu coffadwriaeth. Cafodd Cangen Caerfyrddin golled arall, gan fod Mr H. Reed, a fu'n ysgrifennydd am lawer blwyddyn, nid yn unig yn gadael Caerfyrddin, ond yn gadael y wlad hon. Hwyliodd ef a'i deulu eisoes tuag Awstralia. Llongyfarchiadau i Gangen Pontardulais, ac yn arbennig i Miss E. B. Lewis, yr ysgrifennydd egnïol, ar derfyn tymor hynod o lwyddiannus. Ychydig amser yn ôl bûm yn eu Cyfarfod Blyn- yddol, a mwynhau pob munud o'r amser. Edmygwn ddull y Cadeirydd, Silas James, 0 lywyddu'r cyfarfod, a gwnaeth an- sawdd y drafodaeth argraff neilltuol arnaf. Yr oedd yr Ysgol Undydd ym Mhengelli yn llwyddiant mawr; daeth 150 o fyfyrwyr i'r ddau gyfarfod. T. H. Parry-Williams