Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH Gan I. DAN HARRY ER pan ysgrifennwyd ein nodiadau diwaethaf, penodwyd William Jones, gynt o Hafod Esgob, Nebo, Llanrwst, yn drefnydd i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghanolbarth Cymru. Nodir y ffaith am ddau reswm y mae'n arwydd o'r ysbryd cydweithredol sy'n ffynnu rhwng Adran Addysg Allanol Coleg Aberystwyth a'r WEA yn Ne a Gogledd Cymru, a hefyd y mae'n dystiolaeth i'r cyfraniad a wna cyn-fyfyrwyr Coleg Harlech i achos addysg pobl mewn oed trwy'r wlad yn gyffredinol. Erbyn hyn, dau o'n cynfyfyrwyr sy'n ysgrifenyddion dau Ranbarth Cymru o'r WEA, sef D. T. Guy a C. E. Thomas. Pan benderfyn- wyd lleoli un o'r arbrofion mewn addysg Undebwyr Llafur ym Margam (Port Talbot), dewiswyd dau o'n bechgyn ni i fod yn arloeswyr yn yr ardal hon, sef Eddie Jenkins a Dic Lewis. Bu Harri Jones yn ddarlithydd dros amser i Brifysgol Durham yn yr adran allanol; ac yn Sir Amwythig y mae Myrddin Price yn ddarlithydd ac yn drefnydd addysg mewn oed. Ymfalchîwn yny ffaith fod bechgyn y coleg yn cadw eu diddordeb yn y mudiad a roddodd eu cyfle iddynt. Yn ystod y tymor a aeth heibio, daeth dwy Ysgoloriaeth Wladol i Goleg Harlech, un i Jack Dale am draethawd ar destun llenyddol yn ymdrin â gwaith D. H. Lawrence, a'r llall i Albert Dowden, a sgrifennodd ar destun yn ymwneud â'r gyfraith. Bwriada Jack Dale ddilyn cwrs mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Eidaleg yng Ngholeg Caerdydd, ac y mae Albert Dowden yn astudio'r gyfraith yn Aberystwyth. Ni bu'r Coleg heb un o'r ysgoloriaethau gwerthfawr hyn er 1949, pan arloeswyd y ffordd gan Eddie Jenkins a Gwen Dale, hithau erbyn hyn yn Mrs Eddie Jenkins. Cawsom y fraint o groesawu siaradwyr ac ymwelwyr o'r tu allan yn ystod y tymor hwn eto. Rhoddwyd dwy ddarlith hynod o ddiddorol ar Charles Dickens gan Dr Fielding, o'r Malay College, Lerpwl. Cydnabyddir Dr Fielding yn awdurdod ar Dickens, ac amheuthun oedd gwrando ar gyfraniad mor wreiddiol â'r ddau anerchiad hyn. Bu June Mills a James Maddocks yma yn rhoi rhaglen amrywiol o gerddoriaeth inni ar wahanol offerynnau. 0 Lundain daeth Peter Cowderoy, datgeinydd gwych ar y piano, a roddodd inni raglen o'r safon glasurol uchaf. Bu Sidney Herbert,