Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Munudau gyda'r Beirdd, gan Aneirin Talfan Davies. Llyfrau'r Dryw. 6/ Storïau a Phortreadau, gan Islwyn Williams. Gwasg Aber- ystwyth. 6/ Thomas Charles (1755-1814) gan R. A. Pritchard. Cyfres GWyl Ddewi. Gwasg Prifysgol Cymru. 2/6. HEB feirniadaeth nid oes wir werthfawrogiad. Onid wyf yn maentumio gormod, fe geid pob beirniad llenyddol yng Nghymru i dderbyn gosodiad cyffredinol fel yna. Y mae mor debyg â dim i gynsail y gellid yn hyderus ei fframio ar bared pob beirniad sy'n cymryd beirniadaeth lenyddol o ddifri. Nid yw der- byn hwn yn golygu annheyrngarwch i safonau nac ymwadu â chwaeth." Eiddo'r beirniaid eu rhyddid o hyd. Gan fod gwerthfawrogi llenyddiaeth yn rhan o gwrs disgyblion y dosbarthiadau uchaf yn ein Hysgolion Gramadeg, y maent o reidrwydd yn ymhel â beirniadaeth lenyddol. Am hynny, rhaid croesawu llyfr Aneirin Talfan Davies am ei fod yn agor drws i'r maes eang a diddorol hwn. Nid honni yr wyf y bydd unrhyw ddisgybl a ddarlleno'r llyfr hwn yn ofalus yn debyg o wneud enw iddo'i hunan fel beirniad llenyddol, ond dadlau mai dyma'r math o lyfr sy'n debyg o feithrin yr osgo meddwl angenrheidioL Detholiad o farddoniaeth ynghyda sylwadau ydyw is- deitl y gyfrol. Daw'r caneuon o gyfnodau gwahanol ac fe'u gosodir dan deitlau megis, Hiraeth, Cerddi'r Nadolig, Etifeddiaeth Dda^ a Crist y Beirdd. Yn y ddwy bennod olaf, Ef a erys yfory a Cerddi'r Gaeaf, rhoddir sylw arbennig i T. Gwynn Jones yn y naill, ac i R. Williams Parry yn y llall. Dyna yn fras gynllun y llyfr. Yn ôl ei amcan uniongyrchol y mae gan y beirniad llenyddol ei ddewis o safbwyntiau. Y mae ganddo nifer o lwybrau i'w faes. Nid yw'r gyfrol hon yn di- hysbyddu'r posibiliadau o bell ffordd, a gormod fyddai disgwyl hynny. Yr oedd yn ofynnol cadw mewn cof gwmpas a dyfnder ysgolheictod llenyddol y disgyblion. Dewisodd Aneirin Talfan Davies gyflwyno'i ddarllenwyr i dair ffordd o ymdrin â bardd- oniaeth (a) Caneuon ar thema neu bwnc sy'n gyffredin iddynt. Dyma'r cerddi ar Hiraeth, y Nadolig, Etifeddiaeth Dda, Crist. Dyfynnir o feirdd hen a newydd o dan bob pennawd, a chydir y cerddi wrthL