Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

The Problem of the National Debt, gan Edward Nevin. Gwasg y Brifysgol. 6 Y mae'n anodd meddwl am ddim sydd wedi newid cymaint yn ei faint, ei natur a'i swyddogaeth, yn ystod y ganrif bresennol na'r ddyled wladol, a'r mwyaf arwyddocaol o'r tri hyn yw'r olaf. Yn yr un cyfnod newidiodd ein syniad ni am natur dyled ei hun. Rhywbeth i'w osgoi ar bob cyfrif oedd dyled ar ddechrau'r ganrif, ond erbyn hyn ni ellir yn hawdd ymgyfoethogi hebddo. Y mae'r syniad am gyfoeth wedi newid hefyd. Y dyn cyfoethog ar ddechrau'r ganrif oedd hwnnw â stôr o arian neu eiddo wrth gefn ganddo, a'r dyn tlawd oedd hwnnw a ddigwyddai fod tros ei ben a'i glustiau mewn dyled. Ond nid y stôr sy'n cyfrif heddiw ond yr incwm nid yr eiddo sydd gan ddyn ond yr hyn a enilla. Gall dyn heddiw fod yn berchen eiddo mawr a'i incwm yn gym- harol isel; ac o'r ochr arall, gall dyn fod wedi benthyca miloedd ar filoedd o arian drwy gyfrwng shares, etc., neu, o ran hynny, yn uniongyrchol oddi wrth y bane, a bod y dyn cyfoethocaf yn y fro. Ei boen ef yw nid ei ddyled ond ei enillion, ac y mae'n berffaith dawel ei feddwl ond iddo ennill digon i dalu ei logau a sicrhau gweddill sylweddol iddo'i hun. Y mae'n eithaf bodlon i fynd i fwy a mwy o ddyled er mwyn chwanegu mwy a mwy at ei incwm. Dibynna ei lwyddiant yn hyn o beth ar ei effeithiol- rwydd yn cynhyrchu cyfoeth ar gyfer y farchnad yn y ffurf o nwyddau neu wasanaeth. Ond y mae gwahaniaeth hanfodol rhwng dyled o'r natur yma a'r ddyled wladol. Yn un peth, nid yw cyfoeth y wlad yn mynd un gronyn yn fwy na'r un gronyn yn llai yn ôl maint y ddyled, cyn belled ag y cedwir oddi mewn i farchnadoedd y wlad ei hun. Wrth reswm, os bydd yn angenrheidiol talu llog i wlad arall, rhaid gwneud hynny trwy ildio cyfoeth mewn rhyw ffurf neu'i gilydd, ond elfen gymharol fechan iawn yw hon o ddyled wladol Prydain, a gellir ei hanwybyddu heb gyfeiliorni ymhell wrth drafod ein dyled wladol ni. Peth arall, i bobl y wlad ei hun y mae'r ddyled yn ddyledus, a'r un bobl sy'n gyfrifol i dalu'r llogau a thalu'r ddyled yn ôl, ac i raddau helaeth yr un personau sy'n talu'r llogau trwy dreth yr incwm a threthi eraill (yn arbennig trethi marwolaeth) ag sydd yn derbyn y llogau hefyd. Ac i goroni'r cyfan, mewn arian y cyfrifir y ddyIed-y mae'n hyn-a- hyn o filoedd o filiynau o bunnoedd-ac o arian y gwneir punnoedd ar hyn o bryd, a chan y Llywodraeth yn unig y mae'r hawl i'w printio. Cofier hefyd y gellir cosbi dyn am wrthod papurau punt